Cynllun Corfforaethol: Pobl ifanc
Man lle bydd pobl iau am fyw a gweithio ynddo, a bod ganddynt y sgiliau i wneud hynny
Rydym eisiau i Sir Ddinbych fod yn ardal lle y gall pobl ifanc ffynnu a lle maent yn dymuno gwneud hynny. Er mwyn gwneud hyn mae’n rhaid bod yna ddarpariaeth addysg ragorol ochr yn ochr â chynnig cryf o ran cyflogaeth i bawb, sy’n canolbwyntio ar sgiliau ar gyfer gwaith a sgiliau ar gyfer bywyd. Rydym hefyd yn gwybod fod lles corfforol ac emosiynol o oed ifanc yn bwysig, gan atal problemau rhag codi yn ddiweddarach mewn bywyd. Rydym am sicrhau ein bod yn rhoi’r cychwyn gorau mewn bywyd i bobl ifanc, a byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid, ysgolion a busnesau i sicrhau fod hyn yn digwydd.
Er mwyn cyflawni hyn byddwn yn:
- Gweld pob plentyn sy’n cyflawni’r safon a ddisgwylir ar ddiwedd yr ysgol gynradd (Lefel 4, Cyfnod Allweddol 2) yn cyflawni 5 TGAU A*-C (Lefel 2 Cyfnod Allweddol 4), gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af) a Mathemateg, erbyn diwedd yr ysgol gynradd.
- Parhau i foderneiddio ysgolion drwy raglen Ysgolion yr 21ain ganrif.
- Helpu pobl ifanc i ddatblygu ‘sgiliau byw’ ymarferol ac ymddygiad sy’n cyfrannu at iechyd a lles da.
- Darparu cefnogaeth i rieni i roi'r cychwyn gorau i’w plant.
- Darparu cyngor gyrfaoedd a mentora effeithiol i bobl ifanc.
- Rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau bywyd a gwaith drwy gyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith ystyrlon.
- Datblygu rhagor o gyfleoedd gwaith ar gyfer pobl ifanc.
Os byddwn yn llwyddo, disgwyliwn weld:
- Pobl ifanc yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial.
- Cyfleusterau ysgol modern sy’n gwella dysg disgyblion ymhellach.
- Mae pobl ifanc yn wydn ac mae ganddynt y sgiliau cywir i ffynnu.
- Gall rhieni roi’r dechrau gorau i’w plant yn eu bywydau, i dyfu i fod yn oedolion annibynnol a boddhaus.
- Mae pobl ifanc yn gwneud y dewisiadau cywir i'w paratoi am y gwaith maent yn dymuno ei wneud, a theimlo’n hyderus a’u bod yn cael cefnogaeth dda i ddechrau gweithio.
- Cyfleoedd mentora a gweithio o safon i helpu datblygu sgiliau ymhellach.
- Cyflogaeth sy’n apelio i bobl ifanc ac yn cyd-fynd â’u sgiliau.