Sir Ddinbych â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Yr hyn rydym ni eisiau

Bod yn sir lle mae’r Gymraeg yn iaith byw a ffyniannus. Bydd y sir hefyd yn gwneud y mwyaf o’r cyfoeth o dreftadaeth ddiwylliannol ac asedau naturiol er mwyn cefnogi ffyniant economaidd, datblygu sgiliau a chydlyniant cymunedol.

Ein nod:

  1. Chwarae ein rhan i gyflawni miliwn o Siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050, drwy ddarparu’r Strategaeth Iaith Gymraeg gyda phartneriaid a chymunedau. Mae hyn yn cynnwys:
    • Sicrhau fod pawb yn gallu cael mynediad at wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn naturiol, ac ar bob cam o’u bywydau
    • Cefnogi plant a theuluoedd yn ystod eu blynyddoedd cynnar i ddatblygu hyder o ran defnyddio’r Gymraeg
    • Cefnogi’r defnydd ehangach o’r Gymraeg a dathlu’r diwylliant Cymreig yn y gymuned, gan gynnwys lleoliadau gwaith
    • Datblygu diwylliant ac ethos sy’n annog defnydd dyddiol o’r Gymraeg gan aelodau etholedig a staff y cyngor, a darparu hyfforddiant a chyfleoedd cymdeithasol i wella eu hyder yn defnyddio’r Gymraeg
    • Datblygu’r gwasanaethau sydd ar gael yn y Ganolfan Gymraeg yn Llanelwy er lles y gymuned ehangach
  2. Datblygu strategaeth ddiwylliannol a’r rhaglen ddigwyddiadau sy’n cynnwys:
    • Hyrwyddo diwylliant a threftadaeth gyfoethog Sir Ddinbych
    • Gwneud y defnydd gorau o’n hasedau naturiol, gan gynnwys yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, a’r Parc Cenedlaethol newydd
  3. Gweithio mewn partneriaeth i ddarparu gwasanaeth archifau gwell a chynaliadwy i Ogledd Cymru