Sir Ddinbych sydd wedi cysylltu'n well
Yr hyn rydym ni eisiau
Bydd cymunedau yn Sir Ddinbych yn ffyniannus, cydlynus ac wedi’u cysylltu’n dda. Bydd hyn yn golygu sicrhau cysylltiadau cludiant a seilwaith ffyrdd da, cysylltedd digidol gwell, a seilwaith cymdeithasol i gefnogi lles personol a chymunedol.
Ein nod:
- Cynnal rhwydwaith ffyrdd o ansawdd uchel, gan gynnwys:
- £20 miliwn mewn prosiectau ail-wynebu erbyn 2027
- Disodli Pont Llannerch, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru
- Drwy weithio drwy’r corff rhanbarthol, ac o fewn cyd-destun Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, byddwn yn galluogi pobl i gael mynediad at addysg, cyflogaeth, gwasanaethau a gweithgareddau drwy:
- Gwella gwasanaethau cludiant yng nghymunedau Sir Ddinbych
- Datblygu Cynllun Cludiant Cynaliadwy, sy’n galluogi teithio a thwristiaeth o fewn ein sir yn ‘mwy gwyrdd’, gan gynnwys llwybrau Teithio Llesol newydd sy’n annog cerdded a seiclo o fewn cymunedau a rhyngddynt
- Cefnogi seilwaith gwyrdd y sir drwy:
- Ddatblygu a gosod rhwydwaith o fannau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus
- Archwilio ffyrdd y gall y cyngor annog datblygiadau tai newydd i ganiatáu ar gyfer mannau gwyrdd a phwyntiau gwefru trydanol
- Cefnogi cymunedau gyda sgiliau a rhwydweithiau digidol gwell, mae hyn yn cynnwys:
- Helpu trigolion i ddeall opsiynau a datrysiadau ar gyfer cysylltiad gwell â’r rhyngrwyd, gan gynnwys drwy Bartneriaethau Cymunedol Ffibr
- Drwy ein llyfrgelloedd, ac mewn partneriaeth gyda ‘Cwmpas’, cynnig cyfleusterau o ansawdd uchel a datblygu sgiliau er mwyn cefnogi cymunedau cynhwysol a diogel yn ddigidol
- Hyrwyddo lles personol a chymunedol:
- Cefnogi gwaith gwirfoddol a phrosiectau gan sefydliadau llawr gwlad i ddatblygu sgiliau cymunedol a phersonol mewn lleoedd lleol
- Buddsoddi mewn cynyddu gallu a chefnogi grwpiau cymunedol
- Datblygu cynlluniau ymgysylltu cymunedol i gefnogi cynnwys y gymuned mewn penderfyniadau am adfywio lleol
* Amcanion cydraddoldeb.