Sir Ddinbych teg, diogel, a mwy chyfartal

Yr hyn rydym ni eisiau

Mynd i'r afael â'r amddifadedd y mae ein cymunedau’n ei wynebu, lleihau anghydraddoldeb, a hyrwyddo amrywiaeth a chydlyniant cymunedol.

Ein nod:

  1. Meithrin cydlyniant cymunedol drwy sicrhau fod pobl yn cael eu diogelu rhag niwed, camdriniaeth a chamfantesio. Mae hyn yn cynnwys:
    • Gweithredu i leihau cam-drin domestig*
    • Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Cymryd rhan yn Rhaglen Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru*
    • Hyrwyddo ein Haddewid Dim Hiliaeth*
    • Cymryd camau yn erbyn troseddau casineb, megis yn erbyn y rheiny ag anableddau, neu oherwydd hil neu gyfeiriadedd rhywiol*
  2. Lleihau anghydraddoldebau drwy:
    • Sicrhau fod profiadau pobl o gefndiroedd amrywiol, grwpiau nas clywir yn aml, a’r rheiny dan anfantais economaidd-gymdeithasol yn cael eu clywed ac yn llywio penderfyniadau*
    • Gwella lles plant o deuluoedd incwm isel a dan anfantais. Mae hyn yn cynnwys lleihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant a phobl ifanc drwy’r prosiect Ecwiti drwy Addysg a Phris Tlodi Disgyblion
    • Annog cyfranogiad eang mewn gwasanaethau a ddarperir gan y sectorau llyfrgelloedd, celfyddydau, diwylliant a threftadaeth*
  3. Lleddfu tlodi drwy:
    • Ymestyn ein cynnig prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgol gynradd, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru
    • Datblygu strategaeth gwastraff bwyd i’r sir gyda’n partneriaid
    • Gweithio gyda’n partneriaid i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i'r rheiny sydd mewn perygl o dlodi tanwydd
    • Ysgogi a chefnogi grwpiau cymunedol i helpu unigolion gyda phwysau costau byw
  4. Parhau i gefnogi ac adsefydlu ffoaduriaid drwy Gynllun Adsefydlu Byd-eang y DU, i gefnogi datganiad Cymru fel Cenedl o Noddfa*

* Amcanion cydraddoldeb.