Strategaeth Digartrefedd 2017-2021
Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gynnal adolygiad o ddigartrefedd yn eu hardal a datblygu a chyhoeddi strategaeth sy’n seiliedig ar ganfyddiadau’r adolygiad.
O dan y Ddeddf, mae’n rhaid i’r Strategaeth Digartrefedd amcanu at gyflawni’r amcanion canlynol yn ardal yr awdurdod tai lleol:
- Atal digartrefedd
- Mae, a bydd llety addas ar gael i bobl sy'n ddigartref neu fydd yn ddigartref
- Mae cymorth digonol ar gael i bobl sy'n ddigartref neu fydd yn ddigartref
Datblygwyd y strategaeth hon fel ymateb i ganfyddiadau Adolygiad Digartrefedd 2016 sy’n darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o ddigartrefedd ar draws Sir Ddinbych. Mae’r Adolygiad Digartrefedd wedi nodi materion a bylchau mewn perthynas â’r gwasanaeth a ddarperir, a bydd y strategaeth hon yn amcanu at fynd i’r afael â nhw.
Strategaeth Digartrefedd Cyngor Sir Ddinbych 2017 i 2021 (PDF, 1.08MB)