Ystadegau a data: Economi

Y Farchnad Lafur

Mae proffil marchnad lafur Sir Ddinbych yn rhoi trosolwg o’r farchnad lafur yn Sir Ddinbych. Mae’n cynnwys gwybodaeth o sawl ffynhonnell wahanol.

Mae’r wybodaeth ganlynol am Sir Ddinbych yn gywir o fis Rhagfyr 2018:

  • Gweithgaredd economaidd: 75.6% o bobl 16-64 oed yn economaidd weithgar. Mae hyn yn cymharu â 76.3% yng Nghymru a 78.4% ym Mhrydain Fawr.
  • Gwahaniaeth rhyw: 77.6% o ddynion a 73.7% o ferched yn economaidd weithgar. Mae’r gwahaniaeth rhyw hwn hefyd yn bresennol yn y ffigyrau i Gymru a Phrydain Fawr.
  • Hunan-gyflogaeth: Mae lefel hunan-gyflogaeth yn 18% yn Sir Ddinbych. Mae hyn yn cymharu â 14.2% yng Nghymru a 15.1% ym Mhrydain Fawr. Mae lefelau uchel o hunangyflogaeth yn gyffredin mewn ardaloedd gwledig.
  • Budd-daliadau allan o waith: 15.4% o bobl 16-64 oed yn hawlio prif fudd-daliadau allan o waith. Mae hyn yn cymharu â 14.4% yng Nghymru a 11.0% ym Mhrydain Fawr. 0.7% o’r boblogaeth 16-64 oed yn hawlio Lwfans Ceiswyr Gwaith. Mae hyn yn cymharu â 0.8% yng Nghymru a 0.8% ym Mhrydain Fawr.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn casglu’r wybodaeth hon.

Proffil y farchnad lafur - Sir Ddinbych (gwefan allanol).

Mae yna wahaniaethau mawr rhwng gwahanol rannau o Sir Ddinbych ar gyfer pob un o’r mesurau hyn. Mae cyfradd hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith yn uwch yn yr ardaloedd canlynol nac yn Sir Ddinbych yn gyffredinol:

  • Gorllewin y Rhyl: 3.0%
  • De-orllewin y Rhyl: 1.2%
  • Dwyrain y Rhyl: 1.2%

Mae’r ardaloedd hynny â chyfradd hawlydd Lwfans Ceisio Gwaith hefyd yn tueddu i gael mwy o ddiweithdra, nifer uwch o bobl yn hawlio budd-daliadau allan o waith a lefelau is o weithgarwch economaidd.

Gallwch gymharu'r ystadegau ar gyfer gwahanol ardaloedd Sir Ddinbych ar wefan Infobase Cymru (gwefan allanol).

Busnesau

Fel llawer o ardaloedd eraill, roedd busnesau Sir Ddinbych wedi dioddef yn ystod y dirywiad economaidd. Mae’r ffigyrau diweddaraf ar y nifer o fusnesau newydd a sefydlwyd bob blwyddyn o 2017.

Sefydlwyd 310 o fusnesau newydd y flwyddyn yn Sir Ddinbych yn 2017. Mae hyn yn llai na lefel cyn y dirwasgiad o 355 busnes newydd y flwyddyn.

Mae trosiant agredig o fusnesau yn Sir Ddinbych wedi’i gofnodi yn £2,500miliwn yn 2017. Mae hyn yn cymharu â £2,995miliwn cyn y dirwasgiad.