Ystadegau ffyrdd Sir Ddinbych 

Dangosyddion cenedlaethol

Mae cwmni annbynnol yn cynnal sgan ffisegol ar y rhwydwaith ffyrdd bob blwyddyn er mwyn asesu cyflwr y ffyrdd.   

Yn 2013-14 bu iddyn nhw ddarganfod fod:

  • Cyflwr ffyrdd Dosbarth A (prif ffyrdd) wedi gwella.  Mae canran y ffyrdd Dosbarth A sydd mewn cyflwr gwael wedi gostwng o 5.6% i 3.7%.
  • Cyflwr ffyrdd Dosbarth B (ffyrdd canolig) wedi gwella.  Mae canran y ffyrdd Dosbarth B sydd mewn cyflwr gwael wedi gostwng o 9.3% i 8.8%.
  • Cyflwr ffyrdd Dosbarth C (ffyrdd llai) wedi dirywio.  Mae canran y ffyrdd Dosbarth C sydd mewn cyflwr gwael wedi cynyddu o 13.9% i 14.5%.

Barn ein trigolion

Mae canfyddiadau'r arolwg preswylwyr diweddaraf yn cefnogi hyn.  Mae canlyniadau arolwg preswylwyr 2013 yn dangos bod:

  • 65% o'r preswylwyr yn fodlon ar y gwaith cynnal a chadw sy'n cael ei wneud ar briffyrdd, o gymharu â 60% yn 2011.
  • 62% o'r preswylwyr yn fodlon ar y gwaith cynnal a chadw sy'n cael ei wneud ar strydoedd trefi a phentrefi.  Y gyfradd fodlonrwydd yn 2011 oedd 61%.
  • 49% o'r preswylwyr yn fodlon ar y gwaith cynnal a chadw sy'n cael ei wneud ar ffyrdd gwledig.  Mae hyn yn is o gymharu â ffyrdd eraill ond nid ydym ni'n gwybod os yw hyn yn welliant ai peidio, gan nad yw'r cwestiwn wedi ei ofyn mewn arolygon preswylwyr blaenorol.