Nantclwyd y Dre: Priodasau Sifil a Phartneriaethau Sifil, Adnewyddu Addunedau a Dathliadau Swyddogol

Gyda dros 500 mlynedd o hanes dan ei do ac yn meddu ar un o erddi mwyaf hudolus Cymru, mae Nantclwyd y Dre yn cynnig lleoliad unigryw ac agos-atoch ar gyfer eich diwrnod arbennig.

Nantclwyd y Dre

Mae Nantclwyd y Dre yn dŷ rhestredig Gradd 1 ac yn lleoliad unigryw ar gyfer eich priodas, partneriaeth sifil neu ddathliad adnewyddu addunedau bach ac unigryw. Cewch dynnu eich lluniau yn unrhyw un o’n hystafelloedd hanesyddol, yn ogystal ag yn ein gerddi hardd, sydd â golygfeydd trawiadol o Fryniau Clwyd yn y cefndir.

Mae gennym ddau becyn, yn cynnig dathliad bythgofiadwy a chwbl bersonol. Mae’r rhain yn amodol ar argaeledd, felly cysylltwch â ni i drafod eich cynlluniau.

Opsiwn 1 :Y safle cyfan i chi ei ddefnyddio

Mae’r opsiwn hwn yn cynnwys:

  • mynediad yn ystod y tymor y bydd ar gau (o fis Hydref i fis Mawrth) i’r tŷ a’r gerddi
  • mynediad yn ystod y tymor y bydd ar agor (o fis Ebrill i fis Medi) ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Sul am gost ychwanegol
  • defnydd llawn o'r parlwr ar gyfer eich seremoni
  • 2 awr ar y safle y diwrnod cynt i addurno
  • 4 awr ar gyfer eich seremoni a'ch lluniau
  • taith dywys am ddim i chi a'ch gwesteion o amgylch yr eiddo, ac arweinlyfr am ddim

Cost: £1,500

Opsiwn 2 - defnydd cyfan o’r safle i chi, gyda rhai cyfyngiadau

Mae’r opsiwn hwn yn cynnwys:

  • mynediad yn ystod y tymor y bydd ar agor (mis Ebrill i fis Medi) i’r tŷ a’r ardd gyda rhai cyfyngiadau
  • defnydd llawn o'r parlwr ar gyfer eich seremoni am hyd at 2 awr
  • 2 awr ar y safle y diwrnod cynt i addurno
  • 4 awr ar gyfer eich seremoni a'ch lluniau
  • defnydd am ddim o'r canllawiau sain i chi a'ch gwesteion, ac arweinlyfr am ddim

Cost: £1,000

Delweddau

Delweddau

Nantclwyd y dre -

Nantclwyd y dre -

Nantclwyd y dre -

Nantclwyd y dre -

Cysylltu â ni

Stryd y Castell
Rhuthun
LL15 1DP

Ebost: treftadaeth@sirddinbych.gov.uk

Ffôn: 01824 709822

Ffôn symudol (Rheolwr safle): 07979 704 189

Cyfryngau cymdeithasol

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.