Cwrs Cwricwlwm Newydd ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir
Bydd y cwrs hwn yn cefnogi ymarferwyr sy’n gweithio o fewn ac yn cefnogi lleoliadau i ddeall a gweithredu’r ‘Cwricwlwm Newydd ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir’.
Bydd y cwrs yn cynnwys gwybodaeth a gweithdai ymarferol i gefnogi rhannu arferion da a datblygu cyfleoedd mewn meysydd megis oedolion sy’n galluogi dysgu, profiadau sy’n ennyn diddordeb, amgylcheddau effeithiol a’r llwybrau datblygu.
Pryd fydd cyrsiau’n cael eu cynnal?
Caiff cyrsiau eu cynnal:
- Dydd Llun 13 Mehefin, o 1pm i 3:30pm
- Dydd Llun 13 Mehefin, o 6pm i 8:30pm
- Dyyd Mercher 15 Mehefin, o1pm i 3:30pm
- Dyyd Mercher 15 Mehefin, o 6pm i 8:30pm - Wedi archebu'n llawn
Lle fydd cyrsiau’n cael eu cynnal?
Caiff cyrsiau eu cynnal yn:
Y Ganolfan Datblygu'r Gymraeg
Canolfan Hamdden Llanelwy (Ysgol Glan Clwyd)
Ffordd Dinbych Uchaf
Llanelwy
LL17 0RP
Parcio
Bydd rhywfaint o lefydd parcio ar gael yng Nghanolfan Chwaraeon Llanelwy. Bydd rhagor o lefydd parcio ar gael yn y maes parcio i gyfeiriad Dinbych yn Ysgol Glan Clwyd ac mae’n rhaid defnyddio’r maes parcio hwn ar gyfer cyrsiau 1pm - 3:30pm yn sgil bysiau ysgol.
Pwy sy’n cael dod?
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer staff lleoliadau gofal plant y blynyddoedd cynnar, Athrawon Cymorth y Blynyddoedd Cynnar a gwasanaethau cymorth Cyn Ysgol Awdurdodau Lleol yn Sir Ddinbych yn unig.
Sut i gymryd rhan?
Bydd arnoch angen cadw lle i gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn.
Archebu lle ar gwrs cwricwlwm newydd ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir