Nod gweithdai cynhwysiant yw cynyddu eich dealltwriaeth o gefnogi plant sydd ag oedi datblygiadol a rhoi trosolwg o’r dyletswyddau statudol ar gyfer darparwyr gofal plant cofrestredig a darparwyr addysg a ariennir.
Yn ystod y gweithdai fe fydd yna sesiynau ar:
- Y Ffeil Cynhwysiant - Taith yn dangos y ffeil cynhwysiant gan gynnwys gwybodaeth, canllawiau cefnogol a thempledi.
- Camau sgiliau nesaf – Mae’r sesiwn hwn yn canolbwyntio ar sut i gynllunio ac olrhain datblygiad plant.
- Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn – Gwybodaeth a chefnogaeth ar ddefnyddio adnoddau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, fel diwrnod da a diwrnod gwael a gweithio a ddim yn gweithio, i hysbysu proffiliau un dudalen.
- Cyfathrebu Llawn – Fe fydd y sesiwn hwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio ymagwedd o gyfathrebu llawn gydag amgylchedd cyfoethog o ran iaith i gefnogi plant gyda chyfathrebu cynnar a datblygiad iaith.
Pryd a lle caiff yr hyfforddiant ei gynnal?
Fe fydd y Gweithdai Cynhwysiant yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Gymraeg yn Llanelwy ar y dyddiadau hyn:
- Dydd Mawrth 28 Chwefror 2023 o 6pm - 9pm
- Dydd Mercher 1 Mawrth 2023 o 9.30am -12.30pm
- Dydd Mercher 1 Mawrth 2023 o 6pm - 9pm
Gwybodaeth am y lleoliad
Cyfeiriad Canolfan y Gymraeg yw:
Canolfan Hamdden Llanelwy (Ysgol Glan Clwyd)
Ffordd Dinbych Uchaf
Llanelwy
LL17 0RP
Parcio
Mae lleoedd parcio cyfyngedig ar gael y tu allan i Ganolfan y Gymraeg, fodd bynnag, peidiwch â pharcio yn lleoedd parcio’r ganolfan hamdden. Dim ond ar gyfer defnyddwyr Canolfan Hamdden Llanelwy mae’r lleoedd parcio hyn.
Mae lleoedd parcio ychwanegol ar gael ym maes parcio Ffordd Haul.
Pwy gaiff ddod?
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer holl staff darparwyr gofal plant blynyddoedd cynnar Sir Ddinbych, Athrawon Cymorth Addysg Gynnar, gwasanaethau cefnogi cyn ysgol yr Awdurdod Lleol, a Sefydliadau Ambarél.
Mae hwn yn hyfforddiant gorfodol ar gyfer o leiaf un aelod o staff yn yr holl leoliadau sy’n darparu Addysg Gynnar, a gall uchafswm o ddau aelod o staff o bob lleoliad ddod i weithdy.
Sut mae cymryd rhan?
Fe fydd angen i bob cyfranogwr archebu lle i gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn.
Archebwch le ar Weithdy Cynhwysiant (gwefan allanol)