Gofal Plant Dechrau'n Deg
Mae Gofal Plant Dechrau'n Deg ar gael yn un o’n grwpiau chwarae partner, Cylchoedd Meithrin neu Feithrinfeydd Dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod tymor yr ysgol.
Mae Gofal Plant Dechrau'n Deg bellach ar gael i deuluoedd sy’n byw yn un o’r ardaloedd canlynol:
- Gallt Melyd
- Dwyrain Prestatyn
- De-orllewin Prestatyn
Byddwn hefyd yn cyflwyno rhaglen Gofal Plant Dechrau'n Deg i’r ardaloedd canlynol:
- rhannau o Dde a De-ddwyrain y Rhyl, o fis Rhagfyr 2023
- rhannau o Ddyserth, Rhuddlan a Dinbych Canolog o fis Awst 2024
Gwiriwch os yw eich côdpost yn y rhaglen Dechrau’n Deg
Beth sydd ar gael?
Mae Gofal Plant Dechrau'n Deg ar gael i ddarparu hyd at 12 awr a hanner o ofal plant am ddim bob wythnos yn ystod tymor yr ysgol mewn lleoliad a gofrestrwyd i gyflwyno’r rhaglen Dechrau'n Deg.
Gellir defnyddio’r gofal plant o’r tymor ysgol ar ôl eu pen-blwydd yn ddwy oed tan y tymor ysgol ar ôl eu pen-blwydd yn dair.
Bydd amseroedd y sesiynau yn dibynnu ar bob sesiwn, ond fel arfer byddant yn:
- 9am tan 11:30am
- 1pm tan 3:30pm
Lleoliadau Gofal Plant Dechrau'n Deg
Dewiswch dref i weld y lleoliadau gofal plant ble mae Gofal Plant Dechrau'n Deg ar gael:
Dinbych
Y lleoliadau gofal plant sydd wedi cofrestru i gyflwyno Gofal Plant Dechrau'n Deg yn Ninbych yw:
- Bumble Bees
- Cylch Capel Seion (lleoliad iaith Gymraeg)
Prestatyn
Y lleoliadau gofal plant sydd wedi cofrestru i gyflwyno Gofal Plant Dechrau'n Deg ym Mhrestatyn yw:
- Bodnant Bach
- Clwb Penmorfa
- Cylch Y Llys (lleoliad iaith Gymraeg)
- Tiny Tots
Y Rhyl
Y lleoliadau gofal plant sydd wedi cofrestru i gyflwyno Gofal Plant Dechrau'n Deg yn y Rhyl yw:
- Beach House Day Nursery
- Beach House Fun Club
- Christ the Word nursery
- Cool Cats
- Cylch Dewi Sant (lleoliad iaith Gymraeg)
- Fun Days nursery
- Hannah’s House
- Happy Days
- Little Acorns
- Little Lambs at Emmanuel
- Summer House
Sut i wneud cais am Ofal Plant Dechrau'n Deg
Ar hyn o bryd, mae Gofal Plant Dechrau'n Deg ond ar gael i deuluoedd sy’n gymwys ar gyfer y rhaglen Dechrau'n Deg ac sy’n byw yn un o’r ardaloedd canlynol:
- Gallt Melyd
- Dwyrain Prestatyn
- De-orllewin Prestatyn
Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Rhaglen Dechrau'n Deg a’ch bod yn byw mewn ardal wahanol, byddwn yn cysylltu â chi am wneud cais am Ofal Plant Dechrau’n Deg.
Nod Gofal Plant Dechrau'n Deg
Nod Gofal Plant Dechrau'n Deg yw datblygu a chefnogi’r holl bethau rydych eisoes wedi ei ddysgu i’ch plentyn. Mae’n gyfle i’ch plentyn ddod i arfer gyda chwarae mewn grŵp mwy, cymryd tro, gwneud ffrindiau a datblygu eu sgiliau sylw, meddwl a gwrando wrth archwilio a chael hwyl. Byddant yn dysgu caneuon newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd.