Mae Gweithwyr Cyswllt Teulu Sir Ddinbych yn gweithio'n agos â theuluoedd, ysgolion a lleoliadau cyn ysgol i sicrhau fod pob plentyn yn cael profiad addysg cadarnhaol ac yn cael cyfleoedd i gyrraedd eu potensial llawn.
Cefnogaeth ar gyfer plant
Mae Gweithwyr Cyswllt Teulu yn cynnal grwpiau iaith a chwarae am ddim ar draws Sir Ddinbych ac yn gweithio â lleoliadau cyn ysgol ac ysgolion cynradd gan gynnig cymorth i blant â:
- Pharatoi ar gyfer mynd i’r ysgol
- Mynd i’r toiled
- Iaith a Lleferydd
- Ymddygiad
- Patrymau cysgu
- Bwydo
- Iaith a Chwarae/ sesiynau rhieni a phlant
- Cymorth meithrin
Cefnogi teuluoedd
Mae Gweithwyr Cyswllt Teuluoedd yn cynnig cefnogaeth, cyngor a chyfarwyddyd i deuluoedd sy’n cael anawsterau megis:
- Gwahanu/ysgariad
- Profedigaeth
- Salwch hirdymor neu bryderon meddygol
- Tai/ achos o droi allan
- Anawsterau ariannol
- Salwch meddwl
- Trais domestig
- Camddefnyddio sylweddau
- Cyflogaeth a hyfforddiant
- Deall eich plentyn - Dull ‘Solihull’
Sut i gael cymorth
Mae croeso i chi gysylltu â ni ar-lein i ddarganfod a allwn ni eich helpu chi neu eich plentyn neu os ydych chi’n awyddus i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwn ni eich helpu.
Cysylltu â Gweithwyr Cyswllt Teulu Sir Ddinbych
Grwpiau Rhieni Dull Solihull
Mae Gweithwyr Cyswllt Teulu Sir Ddinbych yn cynnal grwpiau i rieni a gofalwyr plant mewn lleoliadau cyn ysgol ac ysgolion cynradd sy’n awyddus i gael rhagor o wybodaeth am:
- rhianta
- sut mae plant yn datblygu
- sut i ddeall ymddygiad ac emosiynau plant
Mae’r grŵp yn defnyddio dull a ddatblygwyd yn Solihull, sy'n anelu at wella iechyd a lles emosiynol drwy ymarferwyr a rhieni.
Darganfod mwy am ddull Solihull (gwefan allanol)
Sut i gymryd rhan
Cynhelir y sesiynau ar gyfer rhieni a gofalwyr (os oes gennych chi blant iau, byddai’n rhaid gwneud trefniadau gofal plant). Mae’n rhaid archebu lle ar gyfer grwpiau rhieni Dull Solihull.
Mae lleoedd yn brin ac fe'u dyrannir ar sail y cyntaf i'r felin caiff falu.
Cysylltwch â ni os hoffech chi archebu lle ar gyfer grŵp rhieni Dull Solihull.
Mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim ac fe'u cynhelir am ddwy awr unwaith yr wythnos am naw wythnos, ond ni fyddant yn cael eu cynnal dros wyliau ysgol.
Er mwyn gwneud y mwyaf o ddull Solihull, rydym yn eich cynghori i fynychu pob sesiwn (o leiaf 90%)
Ble fydd y grwpiau rheini Dull Solihull yn cael eu cynnal?
Cynhelir y grwpiau mewn ysgolion cynradd lleol.