Hyfforddiant GGD: Diogelu Lefel 3
Mae’r cymhwyster Diogelu Lefel 3 wedi’i ddylunio ar gyfer dysgwyr sy’n cael cyswllt â phlant, pobl ifanc neu oedolion agored i niwed yn eu hamgylchedd gwaith, yn cynnwys gwaith gwirfoddol. Mae’n hyrwyddo ymwybyddiaeth a sensitifrwydd tuag at ddiogelu gan alluogi dysgwyr i adnabod problemau ac mae’n pwysleisio’r cyfrifoldeb i sicrhau y caiff pryderon eu hadrodd ac y cymerir y camau priodol mewn ymateb iddynt.
Pryd a lle fydd y hyfforddiant yn digwydd?
Mae'r hyfforddiant Diogelu Lefel 3 yn cael eu cynnal:
- Dydd Mercher 10 a Dydd Iau 11 Mai 2023 o 6:15pm tan 9pm yng Nghanolfan y Dderwen
- Dydd Llun 3 a Dydd Mercher 5 Gorffennaf 2023 o 6:15pm tan 9pm yng Nghanolfan y Dderwen - Wedi'i archebu'n llawn
Gwybodaeth am y lleoliad
Canolfan y Dderwen
Gwybodaeth am lleoliad am Nghanolfan y Dderwen
Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw
Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY
Parcio
Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Mae gan Ganolfan y Dderwen:
- Doiledau hygyrch
- Parcio hygyrch
- Dolen clyw
- Lifft
- Drysau awtomatig
- Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel
Y Canolfan (Rhuthun)
Gwybodaeth am lleoliad Y Canolfan
Cyfeiriad Y Canolfan yw
Mwrog Street,
Rhuthun
LL15 1LE
Parcio
Mae maes parcio yn Y Canolfan.
Pwy gaiff fynychu?
Mae’r cwrs hwn ar gyfer pob darparwr gofal plant cofrestredig yn Sir Ddinbych sydd wedi cofrestru, neu sydd yn cofrestru, gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (gwefan allanol).
Rhaid i'r lleoliad hefyd fod wedi'i gofrestru gyda Dewis.Cymru (gwefan allanol)
Sut i gymryd rhan
Codir tâl o £35 y pen i fynychu’r cwrs hwn a bydd angen i bob unigolyn sydd am fynychu lenwi’r ffurflen gais ar-lein i gadw lle.
Ar ôl derbyn cais am archeb, byddwn yn anfon anfoneb at y darparwr gofal plant y mae'n rhaid ei thalu cyn mynychu'r cwrs.
Mae'r hyfforddiant hwn wedi'i archebu'n llawn.
Rhagor o wybodaeth
Caiff y cwrs hwn ei ddarparu gan Groundwork North Wales (gwefan allanol).
Canslo Archeb
Os ydych angen canslo archeb yna rhaid canslo eich lle o leiaf dau ddiwrnod gwaith cyn i’r cwrs gael ei gynnal. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu os na fyddwch yn canslo eich archeb mewn da bryd.
Canslo archeb ar-lein
Manylion lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru
Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru manylion eich lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru.
Darganfod sut i ddiweddaru’ch manylion ar Dewis Cymru