Hyfforddiant GGD: Diogelu Lefel 3 (sesiwn grŵp ar-lein)

Mae’r cymhwyster Diogelu Lefel 3 wedi’i ddylunio ar gyfer dysgwyr sy’n cael cyswllt â phlant, pobl ifanc neu oedolion agored i niwed yn eu hamgylchedd gwaith, yn cynnwys gwaith gwirfoddol. Mae’n hyrwyddo ymwybyddiaeth a sensitifrwydd tuag at ddiogelu gan alluogi dysgwyr i adnabod problemau ac mae’n pwysleisio’r cyfrifoldeb i sicrhau y caiff pryderon eu hadrodd ac y cymerir y camau priodol mewn ymateb iddynt.

Caiff y cwrs ei ddarparu mewn sesiwn grŵp ar-lein gyda thrafodaeth broffesiynol yn dilyn hynny, neu gwblhau llyfr gwaith cwrs, fel y’i pennir gan y corff dyfarnu.

Pryd a lle fydd y cyrsiau’n digwydd?

Bydd y sesiynau grŵp ar-lein yn cael eu cynnal ar Zoom neu Microsoft Teams ar Dydd Iau 10 Tachwedd 2022, o 9.30am tan 11.30am.

Mwy am Zoom (gwefan allanol)

Mwy am Microsoft Teams (gwefan allanol)

Bydd y sesiwn un i un neu gwblhau llyfr gwaith yn cael ei drefnu gyda’r hyfforddwr. 

Pwy gaiff fynychu?

Mae’r cwrs hwn ar gyfer pob darparwr gofal plant cofrestredig yn Sir Ddinbych sydd wedi cofrestru, neu sydd yn cofrestru, gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (gwefan allanol).

Mae’n rhaid i’r lleoliad hefyd fod wedi’i gofrestru gyda Dewis.Cymru (gwefan allanol)

Sut i gymryd rhan

Mae'r hyfforddiant hwn wedi'i archebu'n llawn.

Rhagor o wybodaeth

Caiff y cwrs hwn ei ddarparu gan Groundwork North Wales (gwefan allanol).

Canslo Archeb

Os ydych angen canslo archeb yna rhaid canslo eich lle o leiaf dau ddiwrnod gwaith cyn i’r cwrs gael ei gynnal. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu os na fyddwch yn canslo eich archeb mewn da bryd. 

Canslo archeb ar-lein

Manylion lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru

Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru manylion eich lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru.

Darganfod sut i ddiweddaru’ch manylion ar Dewis Cymru