Hyfforddiant GGD: Diogelu Uwch i Arweinwyr Diogelu Dynodedig, Lefel 3

Mae hyfforddiant Diogelu Uwch Lefel 3 yn helpu pobl i ddeall y broses ddiogelu mewn mwy o fanylder.

Mae’r hyfforddiant yn defnyddio ystod o weithgareddau ysgrifenedig ac ymarferion rhyngweithiol i helpu i ddatblygu’r gweithdrefnau diogelu plant o fewn y lleoliad a sicrhau fod bob aelod o staff yn deall eu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu plant. 

Mae’r hyfforddiant yn cynnwys pynciau sy’n ymwneud â:

  • honiadau o gam-drin yn erbyn aelod o staff a sut i ymdrin â’r rhain
  • deall deddfwriaethau a chanllawiau allweddol sy’n ategu at bolisi’r lleoliadau ar gyfer diogelwch a lles plant
  • rolau i’w chwarae yn y broses ddiogelu plant amlasiantaeth gan gynnwys cynadleddau achos
  • darparu adroddiadau ysgrifenedig

Mae’r hyfforddiant yma’n cael ei ddarparu dros ddeuddydd, ac mae’n rhaid i chi fynychu’r ddau ddiwrnod i gwblhau’r hyfforddiant.

Pryd a lle fydd y cyrsiau’n digwydd?

Mae hyfforddiant Diogelu Uwch Lefel 3 i Arweinwyr Diogelu Dynodedig yn cael ei gynnal:

  • Dydd Mercher 20 Medi 2023 o 9:30am tan 2:30pm, a Dydd Iau 21 Medi 2023 o 9:30am tan 1pm, yng Nghanolfan y Dderwen
  • Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023, o 9:30am tan 2:30pm, a Dydd Mercher 29 Tachwedd 2023 o 9:30am tan 1pm, yn Canolfan Gymunedol Llanfwrog, Rhuthun
  • Dydd Mawrth 23 Ionawr 2024, o 9:30am tan 2:30pm, a Dydd Mercher 24 Ionawr 2024, o 9:30am tan 1pm yng Nghanolfan y Dderwen
  • Dydd Mercher 13 Mawrth 2024, o 9:30am tan 2:30pm, a Dydd Iau 14 Mawrth 2024, o 9:30am tan 1pm yng Nghanolfan y Dderwen

Gwybodaeth am y lleoliad

Canolfan y Dderwen, y Rhyl

Gwybodaeth am y Lleoliad am Nghanolfan y Dderwen

Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw

Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY

Parcio

Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.

Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl

Mae gan Ganolfan y Dderwen:

  • Doiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Dolen clyw
  • Lifft
  • Drysau awtomatig
  • Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel
Canolfan Gymunedol Llanfwrog, Rhuthun

Gwybodaeth am lleoliad Canolfan Gymunedol Llanfwrog

Cyfeiriad Canolfan Gymunedol Llanfwrog yw

Mwrog Street,
Rhuthun
LL15 1LE

Parcio

Mae maes parcio yn Canolfan Gymunedol Llanfwrog.

Pwy gaiff fynychu?

Mae’r cwrs hwn ar gyfer Arweinwyr Diogelu Dynodedig mewn lleoliadau gofal plant yn Sir Ddinbych sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn unig (gwefan allanol).

Rhaid i'r lleoliad hefyd fod wedi'i gofrestru gyda Dewis.Cymru (gwefan allanol)

Mae yna gwrs Diogelu Uwch i Warchodwyr Plant ar gael hefyd. Dysgwch fwy am gwrs Diogelu Uwch i Warchodwyr Plant

Sut i gymryd rhan

Codir tâl o £70 y pen i fynychu’r cwrs hwn a bydd angen i bob Arweinydd Diogelu Dynodedig Plant sydd am fynychu lenwi’r ffurflen gais ar-lein i gadw lle.

Ar ôl derbyn cais am archeb, byddwn yn anfon anfoneb at y darparwr gofal plant y mae'n rhaid ei thalu cyn mynychu'r cwrs. 

Ffurflen gais ar-lein i gadw lle ar gyfer Diogelu Uwch Lefel 3 i Arweinwyr Diogelu Dynodedig

Rhagor o wybodaeth

Caiff y cwrs hwn ei ddarparu gan Groundwork North Wales (gwefan allanol).

Canslo Archeb

Os ydych angen canslo archeb yna rhaid canslo eich lle o leiaf dau ddiwrnod gwaith cyn i’r cwrs gael ei gynnal. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu os na fyddwch yn canslo eich archeb mewn da bryd. 

Canslo archeb ar-lein

Manylion lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru

Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru manylion eich lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru.

Darganfod sut i ddiweddaru’ch manylion ar Dewis Cymru