Hyfforddiant GGD: Diogelu Uwch i Warchodwyr Plant, Lefel 3
Mae hyfforddiant Diogelu Uwch Lefel 3 yn helpu pobl i ddeall y broses ddiogelu mewn mwy o fanylder.
Mae’r hyfforddiant yn defnyddio ystod o weithgareddau ysgrifenedig ac ymarferion rhyngweithiol i helpu i ddatblygu’r gweithdrefnau diogelu plant o fewn y lleoliad a sicrhau fod bob aelod o staff yn deall eu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu plant.
Mae’r hyfforddiant yn cynnwys pynciau sy’n ymwneud â:
- honiadau o gam-drin yn erbyn aelod o staff a sut i ymdrin â’r rhain
- deall deddfwriaethau a chanllawiau allweddol sy’n ategu at bolisi’r lleoliadau ar gyfer diogelwch a lles plant
- rolau i’w chwarae yn y broses ddiogelu plant amlasiantaeth gan gynnwys cynadleddau achos
- darparu adroddiadau ysgrifenedig
Mae’r hyfforddiant yma’n cael ei ddarparu dros ddeuddydd, ac mae’n rhaid i chi fynychu’r ddau ddiwrnod i gwblhau’r hyfforddiant.
Pryd a lle fydd y cyrsiau’n digwydd?
Mae hyfforddiant Diogelu Uwch Lefel 3 i Warchodwyr Plant yn cael ei gynnal:
- Dydd Sadwrn 18 Tachwedd 2023, o 9:30am tan 2:30pm, a Dydd Sadwrn 25 Tachwedd 2023, o 9:30am tan 1pm, yng Nghanolfan y Dderwen
- Dydd Sadwrn 6 Ionawr 2024, o 9:30am tan 2:30pm, a Dydd Sadwrn 13 Ionawr 2024, o 9:30am tan 1pm, yn Canolfan Gymunedol Llanfwrog, Rhuthun
Gwybodaeth am y lleoliad
Canolfan y Dderwen, y Rhyl
Gwybodaeth am y Lleoliad am Nghanolfan y Dderwen
Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw
Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY
Parcio
Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Mae gan Ganolfan y Dderwen:
- Doiledau hygyrch
- Parcio hygyrch
- Dolen clyw
- Lifft
- Drysau awtomatig
- Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel
Canolfan Gymunedol Llanfwrog, Rhuthun
Gwybodaeth am lleoliad Canolfan Gymunedol Llanfwrog
Cyfeiriad Canolfan Gymunedol Llanfwrog yw
Mwrog Street,
Rhuthun
LL15 1LE
Parcio
Mae maes parcio yn Canolfan Gymunedol Llanfwrog.
Pwy gaiff fynychu?
Mae’r cwrs hwn ar gyfer Gwarchodwyr Plant yn Sir Ddinbych sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn unig (gwefan allanol).
Rhaid i'r lleoliad hefyd fod wedi'i gofrestru gyda Dewis.Cymru (gwefan allanol)
Sut i gymryd rhan
Codir tâl o £70 y pen i fynychu’r cwrs hwn a bydd angen i bob Gwarchodwr Plant sydd am fynychu lenwi’r ffurflen gais ar-lein i gadw lle.
Ar ôl derbyn cais am archeb, byddwn yn anfon anfoneb at y darparwr gofal plant y mae'n rhaid ei thalu cyn mynychu'r cwrs.
Ffurflen gais ar-lein i gadw lle ar gyfer Diogelu Uwch Lefel 3 i Warchodwyr Plant
Rhagor o wybodaeth
Caiff y cwrs hwn ei ddarparu gan Groundwork North Wales (gwefan allanol).
Canslo Archeb
Os ydych angen canslo archeb yna rhaid canslo eich lle o leiaf dau ddiwrnod gwaith cyn i’r cwrs gael ei gynnal. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu os na fyddwch yn canslo eich archeb mewn da bryd.
Canslo archeb ar-lein
Manylion lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru
Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru manylion eich lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru.
Darganfod sut i ddiweddaru’ch manylion ar Dewis Cymru