Hyfforddiant GGD: Diogelwch Bwyd Lefel 2 (sesiwn grŵp ar-lein)
Mae'r cymhwyster wedi'i anelu at ddysgwyr sy'n gweithio ym maes arlwyo a rhai eraill sy'n trin bwyd. Bydd y dysgwr yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion allweddol ym maes diogelwch bwyd sydd eu hangen i ddiogelu iechyd defnyddwyr. Mae'r ardaloedd dan sylw yn cael eu hystyried yn hanfodol gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd i gynnal diogelwch a hylendid bwyd.
Cyflwynir y cwrs hwn mewn sesiwn grŵp ar-lein, gyda thrafodaeth un i un gyda’r hyfforddwr i ddilyn.
Sut i gymryd rhan
Mae'r cwrs hyfforddi hwn wedi'i archebu'n llawn.
Rhagor o wybodaeth
Caiff y cwrs hwn ei ddarparu gan Groundwork North Wales (gwefan allanol).
Canslo Archeb
Os ydych angen canslo archeb yna rhaid canslo eich lle o leiaf dau ddiwrnod gwaith cyn i’r cwrs gael ei gynnal. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu os na fyddwch yn canslo eich archeb mewn da bryd.
Canslo archeb ar-lein
Manylion lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru
Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru manylion eich lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru.
Darganfod sut i ddiweddaru’ch manylion ar Dewis Cymru