Cyswllt Teulu: Sesiynau Iaith a Chwarae
Mae sesiynau Iaith a Chwarae yn cael eu cynnal am ddim ledled Sir Ddinbych Caiff y sesiynau eu rhedeg gan Weithwyr Cyswllt Teulu bob wythnos yn ystod y tymor.
Mae ein holl sesiynau’n cynnwys gweithgareddau a gynlluniwyd i helpu plant i feithrin sgiliau iaith a chymdeithasu mewn amgylchedd hwyliog a chyfeillgar i’w paratoi ar gyfer mynd i’r ysgol.

Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?
Mae’r sesiynau Iaith a Chwarae ar gyfer plant 1 i 3 oed.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?
Cynhelir y sesiynau mewn ysgolion amrywiol ledled Sir Ddinbych. Dewiswch un o’r ardaloedd canlynol i weld pryd a lle mae’r sesiynau Iaith a Chwarae yn cael eu cynnal:
Sut i gymryd rhan
Gallwch ddod â’ch plentyn (1 i 3 oed) i unrhyw sesiwn Iaith a Chwarae o’ch dewis (nid oes angen i chi archebu lle o flaen llaw).