Cyrsiau a Dosbarthiadau Cymraeg

 

Byddwn yn cefnogi pob gweithiwr nid yn unig i gwblhau’r cwrs 10 awr ar-lein, ond i barhau i ddysgu hyd at gymhwyster lefel Sylfaen (Lefel 2). Dim ond os bydd y rheolwr yn penderfynu bod angen y lefel yma o Gymraeg ar gyfer y swydd y rhoddir caniatâd i symud ymlaen i’r lefel nesaf. Os ydych chi awydd dysgu Cymraeg, mae’n rhaid i chi gael caniatâd gan eich rheolwr cyn i chi archebu lle ar gwrs. 

Unwaith y bydd y rheolwr wedi penderfynu pa sgiliau Cymraeg sydd eu hangen ar gyfer y swydd,  trwy ddefnyddio’r Fframwaith Sgiliau Iaith Gymraeg, gall gweithwyr astudio’r cymhwyster Cymraeg perthnasol.

Pa gyrsiau sydd ar gael?

Croeso i Cymraeg Gwaith- Cwrs 10 awr ar-lein i bobl sydd ag ychydig neu ddim sgiliau Cymraeg. Mae yna nifer o unedau y byddwch angen eu cwblhau a rhai sydd yn arbenigo mewn sectorau amrywiol o’r sefydliad. Os ydych chi’n gweithio ym maes gwasanaethau gofal mae yna gwrs 10 awr arbennig ar gyfer eich sector chi y dylech ei gwblhau.   

Dyma rai o’r pethau y bydd modd i chi eu dweud:  

  • Cychwyn a gorffen sgwrs yn briodol
  • Deall a defnyddio brawddegau cyfarwydd megis cyfarchion, dweud diolch a rhoi cyfarwyddiadau;
  • Deall ymholiadau syml;
  • Trosglwyddo galwad at gydweithiwr sydd yn siarad Cymraeg

Crëwch gyfrif trwy fynd i https://dysgucymraeg.cymru/cofrestru/ a sicrhewch eich bod yn cofnodi eich manylion, derbyniwch y telerau ac amodau a dewiswch Cyngor Sir Ddinbych/Denbighshire County Council fel eich cyflogwr. Yna byddwch yn barod i gwblhau'r unedau.

Dysgu Cymraeg Gwaith – Bydd y cyrsiau dwys Dysgu Cymraeg Gwaith yn helpu eich gallu i ddefnyddio Cymraeg a’ch helpu i weithio’n ddwyieithog. Mae lefelau cwrs gwahanol ar gael, mae’r tabl hwn yn rhoi rhagor o fanylion.   

Mae yna ymrwymiad amser i fynychu’r cyrsiau hyn sydd gyfystyr â 120 awr y flwyddyn, ac yna arholiad. Byddwn yn cynnal cyrsiau rheolaidd trwy gydol y flwyddyn, ac am fod angen niferoedd isafswm yn y dosbarth, efallai y byddwch ar restr aros. Unwaith y bydd gennym ddigon i gynnal dosbarth, byddwn yn gweithio gyda’ch darparwr lleol i benderfynu ar y diwrnod/amser a’r lleoliad gorau.

Mae’n rhaid i chi gael caniatâd eich gan eich rheolwr i fynychu, ac mae’n rhaid i chi gadw at y cytundeb dysgu.  Llenwch y ffurflen gais Dosbarthiadau Cymraeg.

Bydd y cwrs nesaf yn dechrau ym mis medi 2019

Os ydych chi’n gweithio ym maes gwasanaethau gofal efallai y bydd yna gyrsiau eraill ar gael

Os ydych chi awydd mynychu un o’r cyrsiau yma llenwch y Ffurflen Ganiatâd Cyrsiau Cymraeg a’i hanfon at  llinos.howatson@denbighshire.gov.uk

Lefel

Disgrifiad

Lefel 1 - Mynediad

Cyrsiau i ddechreuwyr gyda phwyslais ar siarad Cymraeg.

Lefel 2 – Sylfaen

Cyfle i ddysgwyr gryfhau eu sgiliau siarad.

Lefel 3 - Canolradd

Mae mwy o sgiliau ysgrifennu, darllen a gwrando’n cael eu cyflwyno yn y lefel hon – ond mae’r pwyslais yn dal i fod ar siarad Cymraeg.

Lefel 4 - Uwch

Mae cyrsiau’n helpu dysgwyr i wella eu sgiliau ysgrifennu, ond eto mae’r prif bwyslais ar gryfhau sgiliau siarad.

Lefel 5 – Hyfedredd

Mae cyrsiau ar gael i ddysgwyr profiadol a siaradwyr Cymraeg rhugl sydd eisiau cryfhau eu sgiliau siarad ac ysgrifennu.  

Defnyddio Cymraeg Gwaith – Dyma gwrs preswyl pum niwrnod o hyd a gynhelir yn Nant Gwytheyrn ar Benrhyn Llŷn. Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar roi hyder i weithwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith. Mae’r cwrs yma ar  gael i ddysgwyr sydd ar lefel canolradd neu uwch. Mae hefyd yn addas i siaradwyr Cymraeg llai hyderus neu siaradwyr Cymraeg hyderus sydd eisiau gwella eu sgiliau iaith Gymraeg. Os oes gennych chi ddiddordeb yn y cwrs bydd angen i chi siarad gyda’ch rheolwr a phenderfynu a oes angen y lefel o sgiliau a nodir ar dudalen Fframwaith Sgiliau Iaith Gymraeg ar gyfer eich swydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn https://dysgucymraeg.cymru/cymraeg-gwaith/cyrsiau-preswyl/.  

Cyrsiau eraillEfallai y bydd yna gyfle i chi ddysgu Cymraeg trwy gyrsiau arbennig neu gyrsiau ad-hoc sydd yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn mewn lleoliadau amrywiol. Bydd eu manylion i'w gweld ar y dudalen hon a byddant yn cael eu dosbarthu pan fyddant ar gael. Gallai’r rhain gynnwys sesiynau gwyliau ac adolygu, sesiynau arbennig wedi’u haddasu.