Eisteddfod yr Urdd

Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru

Sir Ddinbych

Mai 30 - Mehefin 4, 2022

Urdd: Arwydd Croeso

Urdd Gobaith Cymru

Mae Urdd Gobaith Cymru yn fudiad ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol gyda dros 55,000 o aelodau rhwng 8 a 25 oed. Mae’n darparu cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc Cymru i’w galluogi i wneud cyfraniadau cadarnhaol i’w cymunedau.

Mae gan yr Urdd 55,000 o aelodau dan 25 oed bob blwyddyn, ac mae 60% o holl ysgolion Cymru yn ymwneud â’r sefydliad. Mae gennym 170 o aelodau staff, 10,000 o wirfoddolwyr, 900 o ganghennau, gyda 200 o ganghennau yn y gymuned.


Logo'r Urdd


Mae’r Urdd yn cynnal Eisteddfod flynyddol, a gynhelir yn ystod hanner tymor y Sulgwyn, a’i lleoliad bob yn ail rhwng lleoliadau’r Gogledd a’r De. Mae’r Eisteddfod yn rhoi cyfle i arddangos talent Gymreig mewn canu, llefaru, perfformio drama, dawns, cystadlaethau offerynnol, canu gwerin, yn ogystal â chystadlaethau mewn coginio, trin gwallt, newyddiaduraeth a llawer mwy.

Eisteddfod yr Urdd

2022 yw tro Sir Ddinbych i gynnal y digwyddiad. Wedi’i drefnu’n wreiddiol ar gyfer 2019 ond wedi’i ohirio oherwydd Covid-19, mae trefniadau bellach ar eu hanterth i groesawu gweddill Cymru i’n sir ddiwedd mis Mai. Lleoliad yr Eisteddfod yw Fferm Kilford ar Ffordd yr Eglwys Newydd ar gyrion Sir Ddinbych, safle’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2013.

Mae’r Cyngor yn falch iawn o fod yn un o brif bartneriaid yr Eisteddfod ac rydym yn gweithio’n agos gyda threfnwyr digwyddiadau i’w wneud yn ddigwyddiad i’w gofio.

Mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal rhwng Mai 30 a Mehefin 4 ac mae’r cyfan sydd angen i chi ei wybod am gystadlu, y maes llafur, ymuno â’r Urdd, cofrestru i gystadlu, gwybodaeth i ddysgwyr, gwybodaeth am rowndiau’r Eisteddfodau lleol a llawer mwy i’w gael ar wefan yr Urdd (gwefan allanol).

Canmlwyddiant yr Urdd

Eleni mae’r Urdd yn dathlu ei chanmlwyddiant, 100 mlynedd ers i’r Urdd gael ei ffurfio gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1922. Ei nod oedd gwarchod y Gymraeg mewn byd lle’r oedd y Saesneg yn dominyddu pob agwedd o fywyd y tu allan i’r cartref.

moel-famau

Sefydlwyd cangen gyntaf yr Urdd yn Nhreuddyn yn Sir y Fflint a thyfodd y mudiad yn ystod y 1920au, gyda mwy o ganghennau'n cael eu sefydlu ledled Cymru. Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gyntaf erioed ym 1929 yng Nghorwen, Sir Ddinbych.

Mae dathliadau'n cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn i nodi'r canmlwyddiant.

Castell Dinbych

Gweithgareddau ac atyniadau yn Sir Ddinbych

Mae Sir Ddinbych yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn darparu nifer anhygoel o brofiadau ar gyfer ardal mor gryno a hygyrch. Cefn gwlad syfrdanol gyda rhan helaeth yn Ardal o Harddwch Cenedlaethol Eithriadol wych ar gyfer cerdded gyda dau lwybr cenedlaethol.

Loggerheads Sir Ddinbych

Trefi marchnad prysur gan gynnwys dwy o gyrchfannau glan môr mwyaf adnabyddus Prydain, y Rhyl a Phrestatyn. Heb anghofio canrifoedd o dreftadaeth gyfoethog gyda’i gestyll ei hun, rheilffordd stêm, tai hanesyddol, carchar Fictoraidd a Safle Treftadaeth y Byd Traphont ddŵr a chamlas Pontcysyllte a chyrchfan fwyd diddorol yn cyfuno i wneud Sir Ddinbych yn gyrchfan gyda gwahaniaeth. Ceir rhagor o wybodaeth am weithgareddau ac atyniadau yn Sir Ddinbych ar wefan Gogledd Ddwyrain Cymru (gwefan allanol).

Castell Dinas Brân

Chwilio am rywle i aros?

Mae gwybodaeth am leoedd i aros ar gael ar wefan Croeso Cymru (gwefan allanol).

Owain Glyndwr