Gweithdy Xplore (Llyfrgell y Rhyl)
Sesiynau rhyngweithiol yw gweithdai Xplore lle gall plant a phobl ifanc:
- Wisgo fyny fel gweithwyr adeiladu, adeiladu waliau gyda’i gilydd a gweld pa mor uchel y gallant adeiladu tŵr heb iddo ddisgyn
- Defnyddio siapiau 3D i ddylunio adeiladau a phontydd newydd
- Dysgu am gylchedau byr ac electroneg.
Bydd gweithdai hefyd yn ymdrin â phynciau megis:
- Ffiseg (Gwyddoniaeth)
- Peirianneg (adeiladu, arbrofi)
- Mathemateg (siapiau 3D)

Mae gweithdai Xplore yn bartneriaeth gyda Xplore! Mae Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth a Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn rhan o ymgyrch Haf o Hwyl.
Ar gyfer pwy mae’r gweithdai?
Mae’r gweithdai i deuluoedd sydd â phlant rhwng 4 a 12 oed.
Pryd a lle?
Cynhelir gweithdai yn Llyfrgell y Rhyl:
- o 10am i 12 noon ar Dydd Llun 1 Awst 2022
- o 2:30pm i 4:30pm ar Dydd Mercher 24 Awst 2022
Darganfod sut i gyrraedd Llyfrgell y Rhyl.
Sut i gymryd rhan
Mae’r gweithdai yn rhad ac am ddim, nid oes angen i chi archebu lle i fynychu, gallwch alw heibio pan fydd y gweithdai’n cael eu cynnal.
Parcio
Gallwch barcio ym meysydd parcio:
Dod o hyd i faes parcio arall y cyngor.
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Mae’r cyfleusterau canlynol ar gael i bobl anabl:
- Lifft
- Toiled i bobl anabl
Rhagor o wybodaeth
Rhagor o wybodaeth am Lyfrgelloedd Sir Ddinbych