Goleuo Ffagl Jiwbilî Blatinwm y Frenhines yn Sir Ddinbych

Goleuo Ffagl Jiwbilî Blatinwm y Frenhines yn Sir Ddinbych

9pm i 10pm, Dydd Iau 2 Mehefin 2022

Arena Ddigwyddiadau'r Rhyl, y Rhyl, Sir Ddinbych

Ar ddydd Iau, 2 Mehefin 2022, y Frenhines fydd y Frenhines Brydeinig gyntaf i ddathlu Jiwbilî Blatinwm. 

I gydnabod gwasanaeth y Frenhines bydd dros 1,500 o ffaglau yn cael eu goleuo ar draws y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Thiriogaethau Tramor y DU, ac un ym mhob un o brif ddinasoedd gwledydd y Gymanwlad.

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn goleuo ffagl swyddogol yn Arena Ddigwyddiadau’r Rhyl, ynghyd â goleuadau ychwanegol ac effeithiau fflam. Bydd adeiladau ar hyd y promenâd hefyd wedi’u goleuo’n goch, gwyn a glas i nodi’r achlysur.

Cymryd Rhan

Gall unrhyw un fynychu'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ac rydym wir yn gobeithio y byddwch yn gallu ymuno â ni am y dathliad cofiadwy hwn.

Gan y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal gyda’r nos ac yn yr awyr agored, cofiwch wisgo’n briodol rhag ofn y bydd hi'n oer.

Amserlen

  • 9pm i 9:15pm - Gwesteion yn cyrraedd a lluniau swyddogol
  • 9:25pm - Croeso swyddogol gan Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych
  • 9:35pm - Y Pibydd i chwarae "Diu Regnare" fel teyrnged bersonol i'r Frenhines.
  • 9:40pm - Y Biwglwr i ganu caniad unigryw o'r enw "Majesty"
  • 9:45pm - Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych ac Arglwydd Raglaw Clwyd i oleuo'r ffagl. Yna, gwahoddir pawb i ganu "A Song for the Commonwealth" i ddathlu'r foment arbennig hon ym mywyd y Frenhines
  • 9:55pm - Sylwadau i gloi gan Faer y Rhyl
  • 10pm - Y digwyddiad yn dod i ben a phawb yn gadael yr Arena Ddigwyddiadau

A Song for the Commonwealth

Gallwch ddysgu mwy am 'A Song for the Commonwealth', yn cynnwys gweld y geiriau a chlywed recordiadau ar wefan Commonwealth Resounds (gwefan allanol).

Ynglŷn â'r lleoliad

Cynhelir y digwyddiad hwn yn Arena Ddigwyddiadau'r Rhyl.

Arena Ddigwyddiadau'r Rhyl,
East Parade,
Y Rhyl,
Sir Ddinbych,
LL18 3AF

Map lleoliad

Neidio dros y map

Arena Ddigwyddiadau’r Rhyl (Map mawr).

Parcio

Y meysydd parcio agosaf at Arena Ddigwyddiadau'r Rhyl yw:

Dod o hyd i faes parcio arall y cyngor.