Jiwbilî Platinwm y Frenhines 2022
Ar 2 Mehefin 2022, Ei Mawrhydi Y Frenhines fydd y Brenin neu Frenhines gyntaf ym Mhrydain i ddathlu Jiwbilî Platinwm, ac er mwyn dathlu 70 mlynedd o’i theyrnasiad hanesyddol ac yn Frenhines ac yn Bennaeth y Gymanwlad, mae nifer o ddathliadau’n cael eu cynnal fel rhan o raglen o ddigwyddiadau dros gyfnod o flwyddyn.
Mae cyhoeddiad eisoes wedi’i wneud i ymestyn penwythnos Gŵyl y Banc rhwng dydd Iau 2 Mehefin a dydd Sul 5 Mehefin 2022 er mwyn rhoi cyfle i gymunedau ar draws y DU i ddod ynghyd i ddathlu’r garreg filltir hanesyddol.
Mae Llywodraeth y DU eisiau i’r dathliadau fod yn fwy ac yn well na dathliadau cenedlaethol blaenorol, ac mae hi eisiau i gynifer o bobl ar draws y wlad gymryd rhan ar unrhyw adeg rhwng rŵan a mis Rhagfyr 2022.
Canopi Gwyrdd y Frenhines
Mae Canopi Gwyrdd y Frenhines yn fenter unigryw a grëwyd ar draws y DU i blannu coed i nodi Jiwbilî Platinwm y Frenhines yn 2022, drwy wahodd pobl i “Blannu Coeden ar gyfer y Jiwbilî.
Dysgwch fwy am Ganopi Gwyrdd y Frenhines (gwefan allanol)
Ffaglau Jiwbilî Platinwm y Frenhines 2022
Gan gadw â’r traddodiad o ddathlu Jiwbilïau Brenhinol, bydd miloedd o ffaglau’n cael eu cynnau gan gymunedau, elusennau a grwpiau gwahanol ar draws gwledydd y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Thiriogaethau Tramor y DU.
Dysgwch fwy am Ffaglau Jiwbilî Platinwm y Frenhines (gwefan allanol)
Cinio Mawr y Jiwbilî
Mae Cinio Mawr y Jiwbilî yn annog cymunedau i ddod ynghyd, i ddathlu eu cysylltiadau a dod i adnabod ei gilydd yn well, a bydd yn dod â dathliadau'r Jiwbilî i galon pob cymuned.
Dysgwch fwy am Ginio Mawr y Jiwbilî (dolen allanol)
Digwyddiadau yn Sir Ddinbych
Gadewch i ni wybod os ydych chi’n dymuno cynnal digwyddiad yn Sir Ddinbych.
Gallwch gael gwybodaeth i’ch helpu gyda’ch paratoadau a rhowch wybod i ni am ddigwyddiadau ar-lein drwy fynd i dudalen cynnal digwyddiad yn Sir Ddinbych.
Partïon Stryd
Os ydych chi’n cynllunio parti stryd, ar ôl i chi roi gwybod i ni eich bod yn bwriadu cynnal digwyddiad, mae’n bosibl y bydd angen i chi:
Dod o hyd i ddigwyddiad
Gallwch ddarganfod lle bydd digwyddiadau i ddathlu'r Jiwbilî yn cael eu cynnal yn Sir Ddinbych ac ar draws y DU ar wefan Jiwbilî Platinwm.