Unwaith y bydd anghenion gofal a chefnogaeth cymwys wedi’u nodi a'u cytuno rhyngoch chi a’ch Prif Asesydd, mae’n debygol y bydd Cyllideb Gymorth yn cael ei hystyried ar gyfer y canlyniadau hynny.
Bydd tri dewis i chi eu hystyried ynglŷn â sut y darperir eich Cyllideb Gymorth:
- Bydd swm o arian yn cael ei dalu i chi er mwyn i chi fod â chymaint o reolaeth â phosib dros eich gofal a'ch cymorth chi eich hun (Hunanreoli)
- Gallwn roi’r arian i ddarparwr gofal a fydd yn gweithio gyda chi i fodloni eich anghenion gofal a chymorth (Gweinyddu gan Ddarparwr)
- Gall y Cyngor reoli eich arian ar eich cyfer. ( Awdurdod Lleol yn ei Reoli)
Gallwn hefyd, o bosibl, ddarparu’r cymorth ar eich cyfer yn uniongyrchol.
Beth yw Cyllideb Gymorth?
Mae Cyllideb Gymorth yn rhoi mwy o reolaeth i chi ar eich gofal a'ch cymorth eich hun a phwy sy'n eu darparu. Arian rydym ni’n ei roi i chi er mwyn eich helpu i brynu’r gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnoch yw cyllideb gymorth, yn hytrach na’u trefnu ar eich cyfer.
Ni fydd cyllidebau cymorth yn effeithio ar eich budd-daliadau cymdeithasol. Nid ydynt yn cael eu hystyried yn incwm trethadwy.
Dysgwch fwy am gyllidebau cymorth a thaliadau uniongyrchol yn ein llyfryn.
Llyfryn cyllideb cymorth a thaliadau uniongyrchol (PDF, 562KB)
Faint y byddaf yn ei gael?
Bydd swm yr arian a gewch yn cael ei gyfrifo ar sail eich sefyllfa bersonol a'r anghenion dynodedig sydd gennych yn unol â’n polisi codi tâl, a byddwn yn trafod gyda chi i gytuno arno.
Polisi codi ffioedd ar gyfer y gwasanaethau gofal a chymorth (PDF, 336KB)
Sut ydw i'n derbyn yr arian?
Bydd angen i chi agor cyfrif banc ar wahân i dderbyn arian y gyllideb gymorth, gan yrru cyfriflenni misol inni o’r cyfrif hwn.
Ar gyfer pa bethau y gallaf ddefnyddio'r arian?
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r arian i fodloni eich anghenion gofal a chymorth dynodedig. Byddwn yn trafod y ffordd orau i chi wario eich cyllideb gymorth ar ofal a chymorth gyda chi.
Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu gyngor, gallwch ymweld â Phwynt Siarad neu gysylltu â’r Pwynt Mynediad Sengl.