Ymgynhoriad safonau hyfforddiant diogelu cenedlaethol
Mae ymgynghoriad bellach ar y gweill ar Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol cyntaf erioed Cymru.
Mae'r safonau drafft, a ddatblygwyd yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru, wedi'u cynllunio i helpu i sicrhau bod pawb yng Nghymru sydd ei angen yn cael hyfforddiant diogelu cyson o ansawdd uchel. Yn benodol, bydd y prosiect yn sicrhau bod:
- sefydliadau yn ymgorffori'r safonau ar gyfer ymarferwyr yn eu polisïau a'u gweithdrefnau diogelu
- ymarferwyr yn deall eu cyfrifoldebau sy'n berthnasol i'r grŵp y maent ynddo a sut i ddilyn y polisïau a'r gweithdrefnau perthnasol
- gan ymarferwyr fynediad at Weithdrefnau Diogelu Cymru ac yn cydymffurfio â hwy
Mae dogfen ddrafft ar y Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol bellach wedi ei chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad. Gallwch ddarllen y ddogfen ddrafft ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru (gwefan allanol).
Dweud eich dweud ar y drafft
Cwblhau’r arolwg ar-lein (gwefan allanol)
Neu gallwch gwblhau'r ddogfen ymgynghori:
Dogfen ymgynghori Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol (MS Word, 700KB)(gwefan allanol)
ac anfon drwy e-bost i: consultations@socialcare.wales.
Gallwch hefyd rannu eich barn yn uniongyrchol gydag aelod o'r grŵp prosiect gan ddefnyddio'r manylion cyswllt yn y ddogfen ymgynghori.
Daw'r ymgynghoriad i ben ar 17 Mehefin 2022.
Cefndir
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn arwain y gwaith o ddatblygu'r Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol. Mae'r safonau wedi'u cyd-gynhyrchu gan grŵp datblygu cenedlaethol amlasiantaethol yn ogystal â grwpiau eraill sy'n canolbwyntio ar agweddau penodol ar y gwaith.
Datblygwyd y Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol mewn ymateb i gydnabyddiaeth nad oes safonau cenedlaethol amlasiantaethol ar gyfer diogelu hyfforddiant ar waith; bod diffyg cysondeb o ran dylunio, cynnwys a darparu hyfforddiant diogelu ar draws sefydliadau yng Nghymru; a bod dryswch yn aml ynghylch y lefelau priodol o hyfforddiant diogelu ar gyfer y gweithlu.