Bydd amserlen dros dro ar waith ar gyfer gwasanaeth bws Dinbych - Rhuthun – Wrecsam rhwng 12 Gorffennaf a 6 Medi.
Oherwydd prinder staff nid yw Arriva yn gallu rhedeg gwasanaeth bws X51, ond mae Cyngor Sir Ddinbych yn mynd i ddarparu gwasanaeth yn ei le.
Mi fydd yna wasanaeth llai yn ystod y cyfnod hwn.
Meddai’r Cyng. Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd y Cyngor: “Oherwydd prinder staff rydym ni wedi trefnu i ddarparu amserlen dros dro ar gyfer Gwasanaeth X51, a fydd yn cael ei ddarparu gan weithredwyr eraill.
“Mae gweithredwyr eraill hefyd yn wynebu problemau staffio ond bydd y gwasanaeth dros dro yn llenwi ychydig o’r bylchau gan ddarparu gwasanaeth yn ystod y dydd i bob cymuned.
“Hoffwn ddiolch i breswylwyr am eu dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.”
Mae’r amserlen dros dro ar gael yn www.sirddinbych.gov.uk/teithio