Mae cerdyn aur Gogledd Cymru yn caniatáu athletwyr sy’n cynrychioli Cymru i ddefnyddio cyfleusterau hamdden Sir Ddinbych, Ynys Môn, Conwy, Sir y Fflint, Wrecsam a Gwynedd.
I fod yn gymwys am gerdyn aur, mae’n rhaid i’r athletwr fyw yn un o’r 6 awdurdod lleol a bod yn aelod presennol o sgwad neu dîm cenedlaethol y corff llywodraethu cenedlaethol. Mae’n rhaid i ymgeiswyr sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon sydd heb gemau rhyngwladol nac yn cystadlu fel unigolion, fod wedi gorffen yn un o dri safle cyntaf Pencampwriaeth Genedlaethol a drefnwyd gan y corff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol, o fewn y 12 mis diwethaf.
Bydd ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn cerdyn aelodaeth am flwyddyn a bydd ganddo hawl i ddefnyddio amrywiaeth penodol o gyfleusterau a chyfarpar yn ddibynnol ar eu rhaglen hyfforddi.
Sut i ymgeisio
Byddwch angen cwblhau ffurflen gais gan sicrhau eich bod wedi llenwi’r holl dudalennau. Bydd angen ichi hefyd yrru dau lun pasbort a siec daladwy i Gyngor Sir Ddinbych am £5.00.
Cwblhau cais