D DAY 75
Cofio 75 o flynyddoedd ers D DAY 6 Mehefin 2019 fydd 75ain pen-blwydd glaniadau D-Day – un o ymgyrchoedd mwyaf rhyfeddol y Cynghreiriaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a budd-ddeiliaid eraill i drefnu dathliadau arwyddocaol i nodi D-Day 75, yn Normandi ac ar draws y Deyrnas Unedig.
Rydym wrth ein bodd cyhoeddi fod y Lleng Brydeinig Frenhinol, mewn partneriaeth ag Arena Travel, wedi llogi llong, MV Boudicca, i gynnig taith wedi’i thalu amdani ar gyfer 300 o gyn-filwyr a oedd yn rhan o ymgyrch D-Day neu a frwydrodd yn Normandi. Caiff pob cyn-filwr ddod ag un gofalwr, eto heb unrhyw gost iddyn nhw.
Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i’r rhai hynny a oedd yn rhan o Laniadau D-Day gyda'r llefydd sy’n weddill yn cael eu rhoi drwy bleidlais i rai a fu’n rhan o’r ymgyrch yn Normandi.
I wneudcais am le ar yr MV Boudicca, gweler y ddolen isod. Y dyddiad cau yw dydd Llun 4ydd Chwefror 2019.
https://www.britishlegion.org.uk/community/d-day-75/
Os ydych chi neu aelod o'ch teulu ar hyn o bryd yn gwasanaethu, neu wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, gallwn eich helpu i gael y cymorth a'r cyngor sydd ei angen arnoch.
Ynghyd â rhai sefydliadau cymunedol eraill, rydym wedi llofnodi cyfamod cymunedol ffurfiol gyda'r gwasanaethau arfog, cyn-filwyr a'u teuluoedd. Cytundeb yw hwn sy'n nodi sut y gallwn ni a'n sefydliadau partner gefnogi cymuned y lluoedd arfog sy'n byw ac yn gweithio yn Sir Ddinbych.
Mae'r Cyfamod wedi bod yn annog cefnogaeth ar gyfer y Cymuned Lluoedd Arfog sydd yn gweithio ac byw yn Sir Ddinbych ac mae'r adroddiad yma yn uwcholeuo y gweithgareddau o'r Partneriaeth Cyfamod Cymundeol y Lluoedd Arfog ers i'r Cyfmaod Cymunedol cael ei arwyddo yn Gorffennaf 2013.
Cliciwch ar y penawdau isod i gael gwybodaeth am sut y gallwn helpu.
Llywodraeth Cymru
Mae pecyn Llywodraeth Cymru o gefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog yn nodi cynlluniau a pholisïau Llywodraeth Cymru, ac yn darparu gwybodaeth am wasanaethau cyhoeddus ar gyfer cymuned y lluoedd arfog.
Dewch i wybod mwy yma.
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd)
Mae CGGSDd yn cefnogi'r sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn Sir Ddinbych, a gall helpu gyda:
- darparu hyfforddiant cost isel ar gyfer gwirfoddolwyr a gweithwyr
- cyngor a gwybodaeth am ariannu
- recriwtio a lleoli gwirfoddolwyr
- cyngor a gwybodaeth i'ch helpu i redeg neu i sefydlu grŵp gwirfoddol neu gymunedol newydd
- cefnogi gwirfoddolwyr i'w helpu i gael mwy o ran yn eu cymunedau
- menter gymdeithasol a datblygu busnes
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan CGGSDd neu anfownch e-bost ar CGGSDd at office@dvsc.co.uk.
Grantiau ar gyfer sefydliadau cymunedol
O dan Gynllun Grantiau'r Cyfanod Cymunedol, mae grantiau ar gael i sefydliadau cymunedol yn Sir Ddinbych. Dewch i wybod mwy am y cynllun a sut i ymgeisio yma.
Gallwch astudio ystod eang o gyrsiau mewn colegau a lleoliadau cymunedol ar draws Sir Ddinbych. Gallwch ddysgu sgiliau newyddi lwyddo yn y gwaith neu newid gyrfa, neu gallwch ddysgu am hwyl. Dewch i wybod mwy yma.
Gall staff yn ein hadran addysg roi cyngor arbenigol ar anghenion addysgol teuluoedd lluoedd arfog i chi. Gallant eich helpu i ddod o hyd i ysgol a gwneud cais am le mewn ysgol, a rhoi cyngor i chi ar unrhyw grantiau neu gyllid y gallech chi efallai ei hawlio. Gallwch gael mwy o wybodaeth yn yr adain addysg neu drwy gysylltu â ni.
Mae yna nifer o sefydliadau a all eich helpu i gael gwaith.
Gyrfa Cymru
Gall Gyrfa Cymru ddarparu gwybodaeth am swyddi, hyfforddiant ac addysg i'ch helpu i gynllunio eich gyrfa. Dewch i wybod mwy ar wefan Gyrfa Cymru.
Canolfan Byd Gwaith
Gall y Ganolfan Byd Gwaith roi cyngor i chi ar fudd-daliadau a ffyrdd o fynd i mewn i waith, gan gynnwys hyfforddiant, profiad gwaith, gwirfoddoli, treialu gwaith a dechrau eich busnes eich hun. Gallwch hefyd gael gwybodaeth yma ar sut i gyfuno gwatih a chyfrifoldebau eraill fel gofalu neu edrych ar ol plant, a'ch helpu i ddod o hyd i waith os oes gennych anabledd. Dewch i wybod mwy yma.
Gallwch gael hyd i'ch Canolfan Byd Gwaith agosaf yma.
SORTED!
Mae SORTED! yn sefydliad sy'n cynnwys saith elusen, sy'n darparu cymorth yn gysylltiedig â chyflogaeth i gymuned y lluoedd, gan gynnwys priod, partneriaid a dibynyddion. Os ydych yn mynd ati i chwilio am waith, bydd SORTED! yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y wybodaeth , cyngor ac arweiniad cywir i wneud y broses yn haws ac yn fwy effeithiol. Ewch i gael mwy o wybodaeth ar wefan SORTED!
Heddlu Gogledd Cymru
Ewch i gael gwybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru yn adran recriwtio eu gwefan.
Gallwch chi hefyd gael cyngor yn yr adran cyngor ar swyddi a gyrfaoedd.
Gallwch gael cyngor a chymorth ar gyfer eich anghenion tai, gan gynnwys tai cyngor, cymdeithasau tai, addasiadau i'r cartref a help gyda dyledion megis morgais neu ol-ddyledion rhent, yn yr adran dai.
GIG Cymru
Caiff Sir Ddinbych ei wasanaethu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n darparu gwasanaethau ysbyty sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac acíwt. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut y gall y GIG eich helpu chi ar wefan GIG Cymru.
Mind
Mae Mind yn elusen iechyd meddwl sy'n darparu cyngor a chefnogaeth i unrhywun sydd â phroblem iechyd meddwl. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Mind Dyffryn Clwyd.
Combat Stress
Mae Combat Stress yn elusen iechyd meddwl i gyn-filwyr, sy'n gweithio gyda chyn-filwyr y lluoedd arfog Prydeinig ac aelodau o'r lluoedd wrth gefn i ddarparu triniaeth a chefnogaeth effeithiol ar gyfer problemau iechyd meddwl, gan gynnwys iselder, ffobiau, pryder, anhwylder straen wedi trawma a mwy. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Combat Stress.
Gallwch hefyd gael gwybodaeth a chyngor yn yr adran iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae aelodau sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog a'r Fyddin Diriogaethol yn cael yr hawl i ostyngiad wrth ddefnyddio canolfannau hamdden yn Sir Ddinbych. Am ffi ostyngol benodol, gallwch ddefnyddio’r ystafelloedd ffitrwydd a thalu dan gytundeb o fis i fis heb ymrwymiad. Bydd angen i chi roi slip cyflog, cerdyn adnabod y lluoedd neu brawf cyflogaeth ysgrifenedig i hawlio eich disgownt.
Dewch i wybod mwy am gyfleusterau hamdden yn yr adran hamdden.
Cynllun nofio am ddim y Lluoedd Arfog
Os oes gennych Gerdyn Braint y Weinyddiaeth Amddiffyn neu rydych yn aelod ar absenoldeb gyda Cherdyn MOD90 y Lluoedd Arfau, yna mi allwch ddefnyddio ein pyllau nofio am ddim yn ystod oriau nofio'r cyhoedd. Mae yna byllau nofio yn y canolfannau hamdden ganlynol;
- Canolfan hamdden Corwen
- Canolfan hamdden Dinbych
- Nova Prestatyn
- Canolfan hamdden Rhuthun
- Canolfan hamdden Y Rhyl
Cerdyn disgownt
Gallwch ofyn am gerdyn disgownt er mwyn cael prynu nwyddau am bris llai ar-lein ac ar y stryd fawr. Mae'r cerdyn ar gael i aelodau a chyn-aelodau'r lluoedd arfofg, a'u teuluoedd. Mwy o wybodaeth am sut i gael cerdyn disgownt.
Cyngor Ar Bopeth (CAB)
Mae CAB yn darparu cyngor annibynnol, cyfrinachol, diduedd am ddim i bawb, ynghylch eu hawliau a'u cyfrifoldebau. Maent yn gerthfawrogi amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb, ac yn herio gwahaniaethu. Ewch i wefan hunangymorth CAB i gael gwybodaeth ymarferol, ddibynadwy i'ch helpu i ddatrys eich problemau.
Gallwch hefyd gael gwybodaeth leol ar wefan CAB.
Y Lleng Brydeinig
Mae'r Lleng Brydeinig yn darparu gofal, cyngor a chefnogaeth i aelodau'r lluoedd arfog, cyn-filwyr o bob oedran a'u teuluoedd. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan y Lleng Brydeining.
SSAFA
Mae SSAFA yn darparu cymorth gydol oes ar gyfer y lluoedd a'u teuluoedd. Maent yn darparu cefnogaeth ymarferol, emosiynol ac ariannol i unrhyw un sy'n gwasanaethu neu wedi gwasanaethu a'u teuluoedd. Ewch i gael mwy o wybodaeth ar wefan SSAFA.
Change Step a Listen In
Mae Change Step yn wasanaeth cyngor a mentora gan gyfoedion i gyn-filwyr milwrol sydd am wneud newidiadau cadarnhaol i'w bywydau. Darperir gan gyn-filwyr ar gyfer cyn-filwyr. Mae Change Step yn cefnogi pobl sy'n chwilio am help ar gyfer problemau a gafwyd o ganlyniad i ddyletswydd milwrol neu weithredol - acyn cynnig cyfleoedd hyfforddiant a chyfeirio i wasanaethau iechyd a lles perthnasol.
Cysylltwch a ni am rhagor o wybodaeth
Mae Listen In yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol i deuluoedd ac anwyliaid cyn-filwyr, gan roi cymorth hanfodol i'r rhai sy'n ymdopi ag amgylchiadau anodd iawn. Dewch hyd i mwy o wybodaeth amdan y dau gwasanaeth trwy gwefan Change Step.