Gall eich plentyn fod yn gymwys i gael 10 awr o addysg am ddim yr wythnos, y tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Rhaid iddynt fynychu cylch chwarae neu Feithrinfa Ddydd sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a gyda'n rhaglen Addysg Gynnar.
Pwy sy'n gymwys?
Plant sy'n cael eu 3ydd pen-blwydd rhwng 1 Medi 2018 a 7 Ionawr 2019 sy’n gymwys i gael cyllid o fis Ionawr 2019 tan fis Gorffennaf 2019.
Mae plant sy'n cael eu 3ydd pen-blwydd rhwng 8 Ionawr 2019 a 28 Ebrill 2019 yn gymwys i gael cyllid o fis Ebrill 2019 tan fis Gorffennaf 2019.
Nid yw plant sy'n cael eu 3ydd pen-blwydd rhwng 29 Ebrill 2019 ac Awst 2019 yn gymwys i gael cyllid drwy’r cynllun hwn.
Sut i wneud cais
Os yw eich plentyn yn gymwys i gael arian, bydd angen i chi wneud cais drwy'r Feithrinfa Ddydd neu gylch chwarae. Bydd angen i chi gyflwyno ID i gynnwys tystysgrif Geni neu Fabwysiadu’r plentyn a phrawf o’r cyfeiriad, e.e. bil cyfleustodau.
Dod o hyd i feithrinfa ddydd neu gylch chwarae
Sut mae'n gweithio?
Os byddwch yn gymwys, byddai’r arian yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r cylch chwarae neu feithrinfa ddydd ar gyfer y tymor ar ôl trydydd pen-blwydd eich plentyn tan ddiwedd y flwyddyn academaidd honno. Ni ellir rhoi arian ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol.
A yw arian yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer diwrnod llawn o ofal plant?
Na, mae'r cyllid yn darparu un sesiwn addysg bob dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener yn y bore neu'r prynhawn, yn debyg i feithrinfa ysgol.
A yw arian yn gallu cael ei rannu rhwng lleoliadau?
Na, bydd eich plentyn ond yn cael dyraniad o gyllid mewn un lleoliad.
Oes rhaid i fy mhlentyn fynychu bob dydd?
Nac oes, ond mae'n rhaid i bob lleoliad gynnig sesiynau o ddydd Llun i ddydd Gwener ac mae mynychu bob dydd yn cefnogi trosglwyddiad da i'r ysgol.
Os ydw i’n gymwys, a ydw i’n sicr o gael lle meithrin yn yr ysgol?
Na, bydd angen i chi wneud cais am le meithrin yn yr ysgol. Dewch i wybod pryd a sut i wneud cais am le meithrin yn yr ysgol.
Mwy o wybodaeth
Efallai bod gennych hawl i gymorth ariannol gydag addysg eich plentyn o’n hadran Grantiau a chyllid.