Addysg Gynnar - 10 awr o addysg am ddim

Gall eich plentyn fod yn gymwys i gael 10 awr o addysg am ddim yr wythnos, y tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Rhaid iddynt fynychu cylch chwarae neu Feithrinfa Ddydd sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a gyda'n rhaglen Addysg Gynnar. 

Pwy sy'n gymwys?

Plant sy'n cael eu 3ydd pen-blwydd rhwng 1 Medi 2019 a 6 Ionawr 2020 sy’n gymwys i gael cyllid o fis Ionawr 2020 tan fis Gorffennaf 2020.

Mae plant sy'n cael eu 3ydd pen-blwydd rhwng 7 Ionawr 2020 a 20 Ebrill 2020 yn gymwys i gael cyllid o fis Ebrill 2020 tan fis Gorffennaf 2020.

Nid yw plant sy'n cael eu 3ydd pen-blwydd rhwng 20 Ebrill 2020 ac Awst 2020 yn gymwys i gael cyllid drwy’r cynllun hwn. 

Sut i wneud cais

I wneud cais am Addysg Gynnar - 10 awr o addysg am ddim, bydd angen i chi gael cadarnhad o le i’ch plentyn mewn lleoliad gofal plant sy’n cymryd rhan yn y cynllun.

Edrychwch pa leoliadau gofal plant sy’n cymryd rhan yn y cynllun
  • Borthyn Bunnies
  • Bumble Bees Playgroup
  • Busy Bods
  • Cylch Chwarae Gellifor
  • Cylch Meithrin Aberclwyd
  • Cylch Meithrin Bodawen
  • Cylch Meithrin Clocaenog
  • Cylch Meithrin Dinbych Uchaf
  • Cylch Meithrin Henllan
  • Cylch Meithrin Llangollen
  • Cylch Meithrin Prion
  • Cylch Meithrin Pwllglas
  • Cylch Meithrin Rhuddlan
  • Cylch Meithrin Rhuthun
  • Cylch Meithrin Tremeirchion
  • Cylch Meithrin Ysgol Y Llys
  • Daisy Chains at Bodnant
  • Early Learners Day Nursery
  • Fun Days
  • Giggles
  • Happy Days Nursery
  • Hiraddug Playgroup
  • Little Acorns
  • Llangollen Pre School Playgroup
  • Miri Melyd
  • Miri Melyd at Clawdd Offa
  • Penmorfa Playmates Playgroup
  • Playdays Playgroup
  • Puddleducks Playgroup
  • Rhuddlan Playgroup
  • Snuggles Day Nursery
  • St Asaph Community Playgroup
  • The Mill Childcare Centre
  • Tiny Tots
  • Ysgol Mair Playgroup
  • Ysgol Y Faenol Playgroup

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i’r lleoliad gofal plant o ddyddiad geni eich plentyn a ble’r ydych yn byw. 

Gwneud cais am Addysg Gynnar - 10 awr o addysg am ddim ar-lein

Sut mae'n gweithio?

Os byddwch yn gymwys, byddai’r arian yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r cylch chwarae neu feithrinfa ddydd ar gyfer y tymor ar ôl trydydd pen-blwydd eich plentyn tan ddiwedd y flwyddyn academaidd honno. Ni ellir rhoi  arian ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol.

A yw arian yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer diwrnod llawn o ofal plant?

Na, mae'r cyllid yn darparu un sesiwn addysg bob dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener yn y bore neu'r prynhawn, yn debyg i feithrinfa ysgol. 

A yw arian yn gallu cael ei rannu rhwng lleoliadau? 

Na, bydd eich plentyn ond yn cael dyraniad o gyllid mewn un lleoliad.

Oes rhaid i fy mhlentyn fynychu bob dydd?

Nac oes, ond mae'n rhaid i bob lleoliad gynnig sesiynau o ddydd Llun i ddydd Gwener ac mae mynychu bob dydd yn cefnogi trosglwyddiad da i'r ysgol.

Os ydw i’n gymwys, a ydw i’n sicr o gael lle meithrin yn yr ysgol?

Na, bydd angen i chi wneud cais am le meithrin yn yr ysgol. Dewch i wybod pryd a sut i wneud cais am le meithrin yn yr ysgol.

Mwy o wybodaeth

Efallai bod gennych hawl i gymorth ariannol gydag addysg eich plentyn o’n hadran Grantiau a chyllid.