Rhandiroedd

Mae rhandir yn ddarn o dir sy'n cael ei ddarparu i arddwyr hobi anfasnachol unigol, ar gyfer tyfu llysiau a phlanhigion ffres.

Mae gennym bump o safleoedd rhandir, yn:

  • Ffordd Cae Glas, Rhuthun
  • Fron Bach, Llangollen
  • Ffordd Las, Dinbych
  • Ffordd Caradog, Prestatyn
  • Y Morfa, Lôn Goed, Prestatyn (rhandir gyda gwlâu uwch)

Beth yw cost rhandir?

Cost rhadir traddodiadol yw £52 y flwyddyn.  

Cost y rhandir gyda gwlâu uwch yn y Morfa, Lôn Goed, Prestatyn yw £25 y flwyddyn.

Sut ydw i'n gwneud cais am randir?

Ymgeisiwch ar-lein am blot mewn rhandir  

Ar hyn o bryd, mae'n holl safleoedd rhandir yn llawn.  

Pan fyddwch yn gwneud cais, byddwn yn rhoi eich manylion ar y rhestr aros am y safle rhandiroedd agosaf at eich cartref.  Byddwn yn cysylltu â chi pan fydd lle ar gael ar y safle.


View Rhandiroedd / Allotments in a larger map