Symiau Cymudol

Does dim symiau cymudol ar gael ar hyn o bryd.

Bydd cyllid ar gael o 3 Hydref 2018.

Mae Swm Cymudol yn daliad gan ddatblygwyr i awdurdod lleol pan nad oes modd creu man awyr agored mewn datblygiad. Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i wella mannau agored a mannau chwarae, fel rheol yn yr un dref neu gymuned â’r datblygiad. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gellir defnyddio’r arian mewn trefi neu gymunedau cyfagos (cyn belled â’u bod yn y sir). 

Pwy all wneud cais?

Gall y canlynol wneud cais:

  • Cyngor Tref a Chymuned
  • Mudiad / Grŵp Cymunedol neu Wirfoddol
  • Partneriaeth gyhoeddus/breifat

Pa fath o brosiect sy’n gymwys?

Gellir defnyddio’r arian i wella neu greu mannau agored/mannau chwarae. Gall brosiectau gynnwys:

  • Gwella mynediad at gyfleusterau
  • Adnewyddu cyfleusterau
  • Gwaith draenio neu ail-wynebu
  • Codi ffensys a gosod goleuadau
  • Creu cyfleusterau newid
  • Creu maes parcio

Nid oes modd defnyddio’r arian ar gyfer:

  • Cynnal a chadw mannau agored
  • Darparu cyfleusterau chwaraeon dan do
  • Clybiau proffesiynol

Mae swm cyfyngedig o arian ar gael ar gyfer gwagle agored hamdden cymunedol yn yr ardaloedd hyn:

  • Bodelwyddan
  • Clocaenog
  • Cynwyd
  • Dinbych
  • Dyserth
  • Llandrillo
  • Llanferres
  • Prestatyn
  • Rhewl
  • Rhuthun
  • Trefnant

Gallwch gael manylion y mathau penodol o brosiectau y gellir eu cefnogi, a'r meini prawf asesu ar gyfer ceisiadau, yn y canllawiau hyn

Sut i wneud cais

Bydd manylion sut i wneud cais yn cael eu hychwanegu yma pan fydd yr arian ar gael