Digwyddiad Busnes: Facebook ar gyfer Busnesau Bach - Uwch

Lleoliad
Clwyd Chambers Clwyd Street Rhyl LL18 3LA
Dyddiad(au)
13/11/2018 (09:00-12:00)
Disgrifiad

Facebook ar gyfer Busnesau Bach - Uwch

Cwmpas  

Ar gyfer busnesau bach sy’n defnyddio Facebook ar hyn o bryd ac sydd am ddatblygu’r llwyfan ymhellach fel adnodd marchnata. Helpu busnesau i ddatblygu strategaeth Facebook sy’n cysylltu â’u hamcanion marchnata busnes.

Cynnwys

  • Diweddariad Facebook – newidiadau o ran algorithmau – beth sy’n newydd i helpu ymgysylltu
  • Creu negeseuon i ymgysylltu cynulleidfaoedd gwahanol – Facebook live, notes, negeseuon gwerthu ac ati
  • Straeon Facebook
  • Targedu cynulleidfaoedd o negeseuon unigol
  • Hysbysebu Facebook – dull wedi’i dargedu
  • Defnyddio Insights i fonitro a gwerthuso eich dull ymgysylltu
  • Amserlennu negeseuon – o’r adnodd cyhoeddi ac ar gyfer negeseuon unigol
  • Strategaeth Facebook – cysylltu marchnata Facebook i amcanion busnes
  • Gosod amcanion ar gyfer y dyfodol

 Archebwch le