Rydym yn cynnal gweithdy ar gyfer aelodau newydd a phresennol o staff yr ysgol sy’n prosesu Rhybuddion Cosb Benodedig. Bydd y gweithdai o gymorth os ydych chi'n newydd i Rybuddion Cosb Benodedig neu os hoffech ddiweddaru eich gwybodaeth.
Bydd hwn yn gyfle i holi cwestiynau a gweld sut mae’r broses yn gweithio.
Pwy gaiff fynychu?
Rhaid i Staff Ysgolion Cynradd ac Uwchradd sy’n prosesu rhybuddion cosb benodedig fynychu gweithdy rhybuddion cosb benodedig.
Sut i gymryd rhan
Bydd angen i chi archebu lle i fynychu’r gweithdy hwn.
Archebu lle mewn gweithdy rhybuddion cosb benodedig
Yn lle?
Cynhelir yr hyfforddiant yn Neuadd Y Sir, Rhuthun.
Darganfod sut i gyrraedd Neuadd y Sir
Parcio
Mae parcio ar gael yn Neuadd y Sir neu'r meysydd parcio agosaf yw:
Stryd y Farchnad
Troed y Rhiw
Dod o hyd i faes parcio arall
Rhagor o wybodaeth
Darganfyddwch fwy am bresenoldeb a rhybuddion cosb benodedig