Rydym yn comisiynu gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymorth i oedolion gan sawl gwahanol sefydliad. Mae'n hanfodol bod y gwasanaeth a ddarperir gan y sefydliadau hyn yn diwallu anghenion pobl Sir Ddinbych, a'u bod yn cyd-fynd â'n hamcanion strategol.
Un o'r prif ffyrdd o ysgogi marchnad amrywiol ar gyfer gofal a chymorth, sy'n cynnig dewis go iawn i bobl, yw drwy Datganiad Sefyllfa'r Farchnad.
Nod Datganiad Sefyllfa’r Farchnad yw:
- Nodi ein cynnig i’r farchnad
- Cyflwyno darlun o'r galw a’r darpariaethau cyfredol, a thueddiadau posibl yn y dyfodol
- Cyflwyno barn y bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau
- Cefnogi darparwyr i wneud penderfyniadau busnes a buddsoddi rhagweithiol
- Atal darparwyr rhag gwastraffu adnoddau ar fentrau wedi eu targedu’n wael
- Helpu darparwyr i ymateb i anghenion a chyfleoedd lleol
- Gweithredu fel man cychwyn ar gyfer trafodaethau rhwng yr Awdurdod Lleol a'r rhai sy'n darparu, neu'n dymuno darparu gwasanaethau.
Darllenwch y Datganiad Sefyllfa'r Farchnad yn llawn