Safle Sipsiwn/Teithwyr diawdurdod rhwng Llandegla a Bwlchgwyn: Cwestiynau Cyffredin

Safle Sipsiwn/Teithwyr diawdurdod rhwng Llandegla a Bwlchgwyn

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi Rhybudd Gorfodi mewn perthynas â'r safle uchod, ac rydym yn parhau i dderbyn nifer uchel o ymholiadau ynghylch yr achos. Mewn ymateb i hynny, rydym yn darparu diweddariadau ynghylch yr achos yn y fan yma.

Mae statws cyfredol yr achos fel a ganlyn:

Mae Rhybudd Gorfodi wedi’i gyhoeddi yn gofyn am adfer y safle i’w gyflwr awdurdodedig blaenorol. Daeth cyfnod cydymffurfio'r Rhybudd i ben ar 6 Mai 2021, ond nid yw’r derbynwyr wedi cydymffurfio â gofynion y Rhybudd. O ganlyniad, mae’r Cyngor wedi clirio rhan o’r safle, ac mae bellach yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn perchennog y safle.

Roedd y gwrandawiad cyntaf yn y Llys wedi'i drefnu ar gyfer 25 Hydref 2022. Ni fynychodd y diffynnydd y gwrandawiad hwn. Mae'r Llys yn ymateb yn unol â hynny a bydd y gwrandawiad yn cael ei ail-restru yn fuan.

Adolygwyd y statws yma ar 15 Tachwedd 2022 a chaiff ei adolygu'n rheolaidd. Darperir diweddariad statws pellach maes o law.

Safle Sipsiwn/Teithwyr diawdurdod rhwng Llandegla a Bwlchgwyn: Cwestiynau Cyffredin

Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae’r Cyngor yn ymateb i achosion posibl o dorri rheolau cynllunio yn ein siarter cydymffurfiaeth cynllunio.

Pwy sy'n gyfrifol am y gweithgaredd diawdurdod?

Mae teulu o'r gymuned Sipsiwn/Teithwyr yn preswylio ar y safle gyda chaniatâd perchennog y tir.

Nid y teulu oedd yn gyfrifol am y ceir a’r pethau eraill oedd yn cael eu storio y tu hwnt i’r rhan o’r safle sydd â ffens o’i hamgylch. Mae’r Cyngor bellach wedi clirio’r eitemau hyn.

Pa mor hir fydd hi'n ei gymryd i atal meddiannaeth y safle?

Cyhoeddodd y Cyngor Rybudd Gorfodi ar 6 Hydref 2020.

Roedd y Rhybudd yn ei gwneud yn ofynnol i feddianwyr y safle adael o fewn 7 mis.

Oherwydd nad yw'r meddianwyr wedi cydymffurfio â'r gofyniad hwn, mae'r Cyngor yn ystyried dewisiadau cyfreithiol pellach er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r Rhybudd.

Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod pa mor hir fydd y broses hon yn para, fodd bynnag mae hwn yn achos â blaenoriaeth ar gyfer adran gynllunio'r Cyngor.

Faint fydd yn ei gostio er mwyn dod â'r broses hon i'w chasgliad?

Gallai costau cyffredinol y broses hon amrywio’n sylweddol. Mae’r Cyngor eisoes wedi clirio’r safle yn rhannol ac maent bellach yn ystyried sut gellir adfer costau gwneud hyn, sydd yn filoedd o bunnoedd.

Gallai’r costau godi eto, ac os felly, bydd angen gwneud penderfyniad o ran pa gamau pellach sy’n rhoi gwerth am arian i’r gymuned.

Sut gallwch chi atal pobl rhag ailfeddiannu’r safle hwn, neu dir preifat arall yn y cyffiniau?

Bydd y Rhybudd Gorfodi mae’r Cyngor wedi’i gyhoeddi yn aros ar waith am gyfnod amhenodol, hyd yn oed os cydymffurfir ag ef. Mae hyn yn golygu na ddylai fod angen i ni gyhoeddi rhybudd newydd os caiff y safle ei ailfeddiannu, cyn belled â bod y gweithgaredd wedi’i gwmpasu gan y disgrifiad o’r torri rheolau ar y rhybudd presennol. Sylwch: Ni fyddai hyn yn berthnasol i feddiannu tir cyfagos na thir arall yn y cyffiniau.

Pa bwerau cyfreithiol sydd gan y Cyngor er mwyn datrys y sefyllfa?

Mae gan y Cyngor bŵer cyfreithiol i erlyn, cymryd camau uniongyrchol (pan fydd y Cyngor yn gwneud gwaith sy’n ofynnol dan y Rhybudd) neu wneud cais am waharddeb.

Mae’r Cyngor eisoes wedi gweithredu’n uniongyrchol i glirio rhan o’r safle ac maent yn ystyried gweithredu ymhellach.

Bydd unrhyw gamau a gymerir gan y Cyngor yn cydymffurfio â deddfwriaeth bresennol, fel rheoliadau Hawliau Dynol a rheoliadau’r Coronafeirws.

Pa bwerau cyfreithiol sydd gan yr Heddlu er mwyn datrys y sefyllfa?

Y Cyngor sy’n gyfrifol am sicrhau y datrysir y sefyllfa, ond mae’n gwneud hynny ar y cyd â’r Heddlu yn y gymuned.

Sut ydych chi’n sicrhau diogelwch preswylwyr y maes carafanau?

Mae'r Cyngor wedi nodi bod gwelededd yn y fynedfa i gerbydau i’r safle o ffordd yr A525 wedi’i gyfyngu, ac felly ystyrir bod hyn yn berygl i ddiogelwch ar y briffordd.

Mae'r Cyngor yn cymryd camau i sicrhau diogelwch meddianwyr y safle a defnyddwyr eraill y ffordd.

Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio gyda gwasanaethau allweddol, gan gynnwys Addysg a Heddlu Gogledd Cymru, i sicrhau diogelwch a lles y preswylwyr.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd i ddarparu llety addas i Sipsiwn/Teithwyr os nodir fod angen.

Mae'r Cyngor yn cyflawni ymweliadau lles ar y safle.

Ydych chi’n gweithio gydag unrhyw grwpiau sy’n cynrychioli’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr mewn perthynas â’r safle?

Nid yw’r Cyngor yn gweithio gyda grwpiau sy’n cynrychioli’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr mewn perthynas â’r safle hwn, ond mae’n agored i weithio gyda grwpiau sy’n eu cynrychioli.

Ydych chi’n cael sgyrsiau gyda pherchennog y tir a meddianwyr presennol y safle o ran eu bwriad a/neu eu lles?

Ydym. Mae’r Cyngor mewn cyswllt â’r meddianwyr a pherchennog y tir.

Mae perchennog y tir yn cytuno â phresenoldeb y preswylwyr.

A fu unrhyw densiwn yn y gymuned rhwng y gymuned leol sefydlog a meddianwyr y safle?

Mae pryderon wedi’u codi’n uniongyrchol ag adran gynllunio’r Cyngor o ran meddiannaeth y safle.

Felly, mae’r adran gynllunio yn cysylltu’n rheolaidd â’r Heddlu ac adran gwarchod y cyhoedd y Cyngor, ac nid yw wedi gweld bod unrhyw drosedd na niwsans statudol wedi digwydd.

Sut ydych chi’n gweithio gyda chynrychiolwyr etholedig i sicrhau bod gan y gymuned lais yn y broses gwneud penderfyniadau?

Mae’r Cyngor yn gweithio gyda’r Aelod o’r Senedd a’r Aelod Lleol, sy’n cyfleu pryderon y gymuned leol. Maen nhw hefyd yn rhan o gyfarfodydd allweddol sy’n ymwneud â gwneud penderfyniadau.

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn ymwneud yn uniongyrchol â’r mater hwn, oherwydd mae i fyny i’r Cyngor ei ddatrys. Fodd bynnag, mae polisi a chanllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru wedi’u hystyried yn ystod y broses orfodi, a chyfeirir atynt yn benodol yn y Rhybudd Gorfodi.

Beth yw effaith amgylcheddol meddiannu’r safle hwn?

Mae’r Cyngor yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (gwefan allanol) a Dŵr Cymru (gwefan allanol) i sicrhau nad oes effaith amgylcheddol o’r datblygiad diawdurdod ar y tir a’r gronfa ddŵr gerllaw.

Beth yw’r goblygiadau o ran diogelwch ar y ffyrdd o feddiannu’r safle hwn?

Nid yw’r mynediad o’r datblygiad diawdurdod i’r briffordd gyfagos yn bodloni safonau gofynnol. Felly, effaith y datblygiad ar y briffordd yw un o’r ystyriaethau a arweiniodd at y Cyngor yn cyhoeddi’r Rhybudd Gorfodi.

Mae’r Rhybudd yn nodi:

Mae’r gwelededd yn y fynedfa i gerbydau i’r safle o ffordd yr A525 wedi’i gyfyngu gan aliniad fertigol y ffordd gerbydau bresennol, a gan godi ffens ar gyrion y safle.

Felly fe ystyrir bod y fynedfa yn achosi perygl i ddiogelwch ar y briffordd a’i bod yn methu â bodloni’r safonau gwelededd a nodir yn Nodyn Cyngor Technegol 18: Cludiant, Llywodraeth Cymru (Mawrth 2007).

Dylid rhoi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru (gwefan allanol) am unrhyw ddigwyddiadau traffig unigol.

A allai'r safle hwn gael caniatâd cynllunio i weithredu?

Ni fydd y Cyngor yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu’r safle yn ei ffurf bresennol. Byddai’r Cyngor yn rhoi ystyriaeth i roi caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd y tir dim ond os gellir rhoi sylw i’r niwed a nodir ar y Rhybudd Gorfodi.

Sut ydych chi am atal unrhyw ymddygiad negyddol tuag at deuluoedd Sipsiwn a Theithwyr yn y lleoliad hwn?

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi gwybodaeth ar eu gwefan i roi gwybodaeth berthnasol a defnyddiol i gymunedau am Sipsiwn a Theithwyr, yn ogystal â gwybodaeth am eu diwylliant.

Dylid rhoi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru (gwefan allanol) am unrhyw ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol unigol.

Lle gallaf i gael rhagor o wybodaeth am y broses cydymffurfiaeth cynllunio?

Mae’r Cyngor wedi mabwysiadu siarter sy’n egluro sut caiff achosion honedig o dorri rheolaeth gynllunio eu trin.

Siarter cydymffurfiaeth cynllunio.