Oes diddordeb gennych mewn Diploma Lefel 4 mewn Rheoli Prosiectau?
Beth yw Prentisiaeth Uwch?
Mae Prentisiaeth Uwch yn cyfuno hyfforddiant yn y gweithle ag astudio tuag at gymhwyster lefel uchel a gaiff ei gydnabod gan ddiwydiant. I unigolion sydd am barhau i ddatblygu'n broffesiynol a gwella'u rhagolygon o ran gyrfa, mae'n llwybr gwahanol i'r un addysg uwch academaidd arferol.
Beth yw'r Brentisiaeth Uwch mewn Rheoli Prosiectau Lefel 4?
Mae'r cymhwyster 2 flynedd hwn wedi'i anelu at y bobl hynny sy'n rheoli eu prosiect sylweddol eu hunain. Mae'r rolau hyn yn cynnwys:
- Rheolwr Prosiectau
- Cydlynydd Prosiect
- Gweithredwr Prosiect
- Swyddog Cefnogi Prosiect
Fel rhan o'r cwrs, disgwylir i ddysgwyr gwblhau Sgiliau Hanfodol, portffolio o waith ac elfen wybodaeth wedi ei chyflwyno o bell drwy gyfrwng Google Meet.
Mae'r modiwlau'n cynnwys:
- Amserlen Rheoli Prosiect, Cyllid, Risg, Cwmpas ac Ansawdd Prosiectau
- Egwyddorion Rheoli Prosiect
- Rheoli Rhanddeiliaid
- Diffinio Achos Busnes
- Rheoli Adnoddau a Chontractau Prosiect
- Darparu Arweinyddiaeth a Chyfeiriad mewn Amgylchedd Prosiect
Ymunwch a ni i ddarganfod mwy a siarad gydag ein tîm:
Pryd: 10:30am, Dydd Mercher 25 Ionawr 2023
Lle: Microsoft Teams
(Danfonir dolen i chi unwaith i chi gadarnhau eich lle.)
Cysylltwch â Sian Crickett ar 07444417919 / s.crickett@gllm.ac.uk i archebu eich lle heddiw!