Mae’r cyngor wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol i bawb sy’n gweithio yma.
Mae’r menopos yn rhan naturiol o fywyd pob merch, ac nid yw bob amser yn drawsnewidiad rhwydd. Gyda’r gefnogaeth gywir, gall fod yn llawer gwell. Er nad yw pob merch yn dioddef y symptomau hyn, bydd cefnogi’r rhai sy’n eu dioddef yn gwella eu profiad yn y gwaith.
Ni ddylai’r menopos fod yn dabŵ na chael ei 'guddio’. Rydym eisiau i bawb ddeall beth yw’r menopos, a gallu siarad yn agored amdano, heb deimlo cywilydd. Nid mater i ferched yn unig yw hwn, dylai dynion hefyd fod yn ymwybodol.
Mae’r newid yng ngweithlu’r DU yn golygu fod rhwng 75% ac 80% o ferched sydd â’r menopos yn gweithio. Mae ymchwil yn dangos fod y rhan fwyaf o ferched yn amharod i drafod problemau iechyd sy'n ymwneud â'r menopos gyda'u rheolwr atebol, na gofyn am y gefnogaeth neu'r addasiadau y gallai fod arnynt eu hangen.
Polisi menopos (PDF, 752KB)