Ffair Swyddi Cyngor Sir Ddinbych 2022

Ffair Swyddi Cyngor Sir Ddinbych 2022
Dyddiad: Dydd Mercher 14eg o Fedi 2022, 3:00 y.p. – 7:00 y.h.
Lleoliad: Swyddfa’r Cyngor, Caledfryn, Dinbych, LL16 3RJ
Rydym yn eich gwahodd i’n Ffair Swyddi yn mis Medi i roi’r cyfle i’r rhai sy’n chwilio am waith yn Sir Ddinbych ddod i wybod am amrywiaeth o swyddi gwag sydd gennym ar draws ein gwasanaethau.
Mae'r Ffair Swyddi yn canolbwyntio ar swyddi rheng flaen o fewn y Cyngor, ac mae cymysgedd amrywiol o swyddi gwag ar gael mewn adrannau ar draws y Cyngor gan gynnwys:
- Glanhawyr
- Cynorthwywyr Arlwyo
- Cogyddion
- Gweithwyr Gofal
- Gweithwyr Cymdeithasol (plant ac oedolion)
- Gyrwyr
- Gweithredwyr Casglu Gwastraff a Sbwriel
- Swyddogion Gweinyddol
- Gwasanaethau Cwsmer
- Cynnal a Chadw Eiddo: Plastrwyr, Plymwyr, Seiri Coed
- Cymhorthyddion Dysgu
- Staff Cefnogi Ysgol
Cewch gwrdd a gweithwyr a rheolwyr presennol, dysgu popeth am ein swyddi cyn gwneud cais, darganfod ein cynlluniau budd-daliadau gweithwyr hael, ac archwilio yr amrywiaeth o swyddi gwag sydd gennym yn bresennol a rhai sydd gennym ar y gweill. Bydd gwybodaeth hefyd am ystod o gyfleoedd gwirfoddoli y Cyngor.
Dewch draw am y prynhawn, galwch i fewn ar ôl casglu eich plant o’r ysgol, neu dewch i’n gweld ar eich ffordd adref o’r gwaith i ddarganfod sut brofiad yw gweithio i Gyngor Sir Ddinbych, a’r cyfleoedd gwych sydd gennym ar gael. Mae’r Ffair Swyddi am ddim i’w fynychu, ac mae lle i barcio ar y safle.
Ni fu erioed amser gwell i ddarganfod pam y dylech weithio i ni.