Ynglŷn â'r rolau

Mynd yn syth i:


Fel Pennaeth Gwasanaeth, byddwch yn arweinydd pendant ac ysbrydoledig a all helpu i lunio’r dyfodol ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych, ein preswylwyr a’n cymunedau lleol.

Yn gweithio fel rhan o Dîm Arwain Strategol y Cyngor, dyma rôl drawsnewidiol sy’n cael dylanwad go iawn ac yn gyfrifol am bortffolio o wasanaethau sy’n cynnwys Cynllunio Busnes a Gwelliant Corfforaethol; Rheoli Perfformiad a Risgiau Corfforaethol; Rhaglen Swyddfa; TGCh gan gynnwys Trawsnewid Busnes; Cynllunio a Chefnogi Partneriaethau Strategol; Rheoli Gwybodaeth; Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth; Grŵp rheoli asedau corfforaethol; Portffolio diwydiannol masnachol ac ysgafn; Ystadau amaethyddol; Rhaglen gyfalaf; Safleoedd cyflogaeth strategol masnachol; Rhesymoli swyddfeydd; Rhaglen lleihau ynni a charbon.

Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:

Gary Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Llywodraethu a Busnes Swyddog Monitro

E-bost: gary.williams@sirddinbych.gov.uk

Ffôn: 01824 712562.

Ymgeisio


Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl

Pecyn cyflog: £91,291 - £94,036

Fel Pennaeth Gwasanaeth, byddwch yn arweinydd pendant ac ysbrydoledig a all helpu i lunio’r dyfodol ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych, ein preswylwyr a’n cymunedau lleol.

Yn gweithio fel rhan o Dîm Arwain Strategol y Cyngor, dyma rôl drawsnewidiol sy’n cael dylanwad go iawn ac yn gyfrifol am bortffolio o wasanaethau sy’n cynnwys Gwasanaethau Cyfreithiol; Cyswllt AD gan gynnwys y Strategaeth Pobl ac Iechyd Galwedigaethol; Gwasanaethau Democrataidd; Adain pwyllgorau, cofrestru etholiadol ac etholiadau; Cefnogi Aelodau; Cofrestru Genedigaethau; Marwolaethau a Phriodasau; Caffael strategol a Rhaglen Trawsnewid Caffael; Gwasanaeth Cwsmeriaid; Cyfathrebu a Marchnata; Lechyd a Diogelwch.

Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:

Gary Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Llywodraethu a Busnes Swyddog Monitro

E-bost: gary.williams@sirddinbych.gov.uk

Ffôn: 01824 712562.

Ymgeisio


Fel Pennaeth Gwasanaeth, byddwch yn arweinydd pendant ac ysbrydoledig a all helpu i lunio’r dyfodol ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych, ein preswylwyr a’n cymunedau lleol.

Yn gweithio fel rhan o Dîm Arwain Strategol y Cyngor, dyma rôl drawsnewidiol sy’n cael dylanwad go iawn ac yn gyfrifol am bortffolio o wasanaethau sy’n cynnwys: Cyfrifyddiaeth a’r Trysorlys, Cyflogau, Taliadau, Cyfrifon Canolog a Rheoli, Systemau Ariannol, Archwilio Mewnol, Tîm Refeniw a Budd-daliadau.

Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:

Graham Boase, Prif Weithredwr

E-bost: graham.boase@sirddinbych.gov.uk

Ffôn: 01824 706061.

Ymgeisio



Pwrpas y Swydd

  • Bod yn gyfrifol am arweinyddiaeth a rheolaeth broffesiynol, strategol a gweithredol y Gwasanaeth/au, gan gynnwys arwain ar ddatblygiad a gweithrediad blaenoriaethau’r gwasanaeth.
  • Cefnogi’r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwyr Corfforaethol gyda rheolaeth gyffredinol y Cyngor drwy’r gwasanaethau penodol gan sicrhau bod blaenoriaethau, strategaethau a phrif brosiectau’r Cyngor yn cael eu darparu’n effeithiol.
  • Darparu arweinyddiaeth i wasanaethau penodol y Cyngor drwy fod yn aelod o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, gan sicrhau datblygiad polisi a darpariaeth gwasanaeth integredig.
  • Chwarae rôl allweddol i gynyddu perfformiad ac effeithlonrwydd ar draws y Cyngor a’i bartneriaid er budd y gymuned.

Prif Atebolrwydd a Chyfrifoldebau

Arweinyddiaeth

  • Darparu arweinyddiaeth strategol ac effeithiol ar y cyd â phenaethiaid gwasanaethau eraill ar gyflawni cynlluniau penodol fel y diffinnir o fewn y maes gwasanaeth ac ar draws y Cyngor i ddarparu mentrau corfforaethol.
  • Darparu amgylchedd dysgu ac ymagwedd gadarnhaol, rhagweithiol a hyblyg wrth wneud penderfyniadau.
  • Darparu cefnogaeth a chyngor proffesiynol i Aelodau a Chyfarwyddwyr Corfforaethol i gefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion y Cyngor ac i gyflawni cyfrifoldeb statudol y Cyngor.
  • Bod yn esiampl o ddiben a gweledigaeth y sefydliad a sicrhau bod rheolwyr yn canolbwyntio ar gyflawni'r weledigaeth honno.

Darparu Gwasanaeth

  • Sicrhau bod ystod briodol o wasanaethau cyfoes yn cael eu cynllunio, eu comisiynu a’u darparu sy’n diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys datblygu cynlluniau busnes.
  • Sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cael eu trefnu’n effeithiol, yn gost effeithlon, yn cael eu hadolygu a’u hailddylunio’n systematig lle bo’r angen.
  • Sicrhau gwasanaethau o safon uchel sy’n bodloni canllawiau a safonau statudol ac arfer da.
  • Bod yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid er mwyn bodloni disgwyliadau a bodloni anghenion cwsmeriaid, a hyrwyddo Dull Sir Ddinbych.

Datblygu Polisïau a Strategaethau Gwasanaeth a Chorfforaethol

  • Datblygu a gweithredu polisïau a strategaethau sy'n darparu safonau uchel a gwelliant parhaus o ran canlyniadau a safonau ar gyfer y gwasanaeth.
  • Creu a datblygu partneriaethau effeithiol gydag adrannau mewnol ac asiantaethau allanol a sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector er mwyn gwneud y gorau o'r adnoddau sydd ar gael i'r Cyngor o ran cyflawni ei nodau ac amcanion strategol.

Newid a Gwelliant Parhaus

  • Hyrwyddo newid a gwelliant o ran eu gwasanaethau penodol a'r Cyngor yn gyffredinol.
  • Cyfathrebu a darparu gweledigaeth ar gyfer gweithwyr mewn perthynas â newidiadau a gwelliant.
  • Paratoi’r Cyngor ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol trwy ganfod cyfleoedd newydd.

Rheoli Adnoddau

  • Bod yn bennaf atebol am reoli adnoddau yn y maes/meysydd gwasanaeth penodol.
  • Sicrhau bod cyllidebau ac adnoddau eraill wedi’u cynllunio, yn cael eu monitro a’u rheoli a bod gwariant yn cael ei reoli i sicrhau bod pob rheolwr gwasanaeth yn deall ac yn derbyn cyfrifoldeb am gydbwyso cyllidebau.
  • Sicrhau strwythur clir o atebolrwydd a rheolaeth.
  • Gwneud y mwyaf o’r adnoddau sydd ar gael i’r gwasanaeth i gyflawni ei nodau ac amcanion strategol.

Diogelwch, Ansawdd a Rheoli Perfformiad

  • Sefydlu a rheoli systemau a gweithdrefnau sy'n sicrhau amgylchedd gwaith diogel, yn unol â; Nodiadau Cyfarwyddyd HSE, deddfwriaeth berthnasol, a pholisïau'r Cyngor.
  • Sicrhau bod staff yn derbyn yr hyfforddiant, cefnogaeth ac adnoddau angenrheidiol i ymgymryd â’u rôl yn ddiogel. Hyrwyddo diwylliant iechyd a diogelwch cadarnhaol, ac arwain drwy esiampl.
  • Sicrhau bod gwybodaeth ariannol, data ansawdd gwasanaeth a chanlyniadau yn cael eu casglu’n gywir a defnyddio data perfformiad yn barhaus.
  • Defnyddio cynlluniau busnes a phrosiect, dangosyddion perfformiad a mesuryddion canlyniadau i arddangos diwylliant o berfformiad uchel.
  • Sefydlu fframwaith i sicrhau arferion proffesiynol o safon yn y gwasanaethau, gan gynnwys cynnal archwiliadau ymarfer rheolaidd ac arsylwadau gan reolwyr ar bob lefel yn y Gwasanaeth a dulliau adrodd yn y prosesau rheoli.

Rheoli Risg

  • Adolygu holl weithgareddau a phrosiectau’r gwasanaeth yn rheolaidd i sicrhau bod risgiau yn cael eu rheoli’n briodol.
  • Sicrhau rheoli risgiau drwy asesu risg, gweithdrefnau monitro risg, a mesurau lliniaru risg gan gynnwys risgiau i weithwyr, aelodau o'r cyhoedd, cwsmeriaid y cyngor, asedau'r cyngor, risgiau diogelu a risgiau i enw da'r cyngor. Mae’r meysydd risg y dylid eu rheoli yn cynnwys: rheoli data, parhad busnes, diogelwch tân ac iechyd a diogelwch.

Cyfrifoldebau Adnoddau Dynol

  • Sicrhau rheolaeth gyson ac ansawdd uchel o berfformiad staff.
  • Sicrhau datblygiad cynllun gweithlu mewn cydweithrediad â phrosesau cynllunio busnes, gweithio ar y cyd ar draws y Cyngor a chyda chyrff allanol i ddiwallu anghenion y cynllun.
  • Rheoli absenoldeb i gyrraedd targedau perfformiad allweddol.
  • Sicrhau perthnasau a chyfathrebu effeithiol ac adeiladol gyda’r staff.
  • Sicrhau recriwtio effeithiol a chynaliadwy i gyflawni amcanion y sefydliad.

Cydraddoldeb a Chynaliadwyedd

  • Sicrhau bod y gwasanaeth yn diwallu ei gyfrifoldebau cydraddoldeb a chynaliadwyedd o dan y gofynion deddfwriaethol penodol.

Cyfrifoldebau Dirprwyedig

  • Cyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau o'r fath a bennir yn rhesymol gan y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol o dan y cynllun dirprwyo.

Amcanion Allweddol a Rhaglenni Corfforaethol

  • Bydd Amcanion Allweddol ac Arweinyddiaeth y Rhaglen Gorfforaethol yn cael eu cynnig a'u trafod â deiliad y swydd a’u monitro gan y Cyfarwyddwr.

Logo Hyderos o ran anabledd