Adnabod Sir Ddinbych

Sir Ddinbych

Mae Sir Ddinbych yn ymestyn o gyrchfannau arfordirol y Rhyl a Phrestatyn yn y gogledd, trwy Ddyffryn Clwyd a thros Fwlch yr Oernant i harddwch Dyffryn Dyfrdwy. Mae tref brysur Llangollen yn gartref i’r Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol ac ar gyrion camlas Llangollen a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte a ddynodwyd yn Safle Treftadaeth y Byd yn ddiweddar.

Nid yn unig yr ydym ni’n ddigon ffodus i fod wedi ein lleoli mewn rhan brydferth o’r Deyrnas Unedig, mae gennym ni hefyd gysylltiadau cludiant ardderchog. Ar hyd yr A55 mae Lerpwl a Gaer yn daith awr yn y car, a Caergybi a Manceinion ond 20 munud yn bellach.

Sir Ddinbych

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ydi ffin ucheldir dramatig Gogledd Cymru, ac mae’n cynnwys rhai o ardaloedd cefn gwlad mwyaf godidog y wlad. Mae Bryniau Clwyd yn gadwyn ddigamsyniol o gopaon wedi’u gorchuddio â grug porffor, ac arnynt fe gewch chi hyd i fryngaerau mwyaf trawiadol Prydain. Y tu hwnt i Fwlch yr Oernant gwyntog, dros Fynydd Llantysilio, mae dyffryn gogoneddus Dyffryn Dyfrdwy a thref farchnad enwog a hanesyddol Llangollen, sydd ag etifeddiaeth ddiwylliannol a diwydiannol cryf. Mae Llwybr Cenedlaethol Llwybr Clawdd Offa yn rhedeg drwy'r ardal warchodedig arbennig hon, sydd heb ei ddarganfod gan lawer eto, ond mae’nun o dirweddau mwyaf croesawgar a’r hawsaf i’w archwilio ym Mhrydain.

Mae natur, hanes a phobl wedi gwneud Sir Ddinbych yn lle unigryw. Mae yma dair tirwedd nodweddiadol a grëwyd gan natur; yr arfordir, yr ucheldiroedd a’r dyffrynnoedd afonydd cyferbyniol, yn aros i gael eu harchwilio, ynghyd â’r newidiadau a wnaed iddynt gan genedlaethau dirifedi o breswylwyr a goresgynwyr. Yma, bron i 250,000 o flynyddoedd yn ôl, bu fyw’r Cymry cyntaf. Rŵan, mae heddwch y dirwedd wledig a’r arfordir baner las yn cymysgu’n gydnaws â threfi a phentrefi sy’n ffynnu, yn cefnogi amrywiaeth amrywiol odrigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd ac yn creu sir sy’n gyfoeth o ddiwylliant.

Sir Ddinbych

Mae bryngaerau a thirweddau dirgel y Sir Ddinbych gynhanesyddol yn parhau’n ysblennydd gweladwy. Roedd pobl yn ogystal â natur wedi creu’r Sir Ddinbych odedig hon, ac yn parhau i’w chynnal. Bu’r Rhufeiniad a’r Brythoniaid, y Cymry, y Saeson a’r Normaniaid, y Cafaliriaid a’r Pengrynwyr i gyd yn eu tro yn dadlau dros y 'Berfeddwlad' hon - 'y Wlad yn y Canol' neu'r 'Tiroedd Rhwng' – y gororau rhwng tywysogion Cymreig Gwynedd a Phowys, ac yn hollbwysig rhwng Lloegr a pherfeddwlad Eryri. Mae cyfoeth o gestyll – rhai Cymreig a Seisnig, rhai enwog a rhai llai adnabyddus, yn nodi llawn a thrai’r rhyfeloedd hir hyn.

Yn yr un modd, mae stori Sir Ddinbych hanesyddol wedi’i chroniclo yn ei hetifeddiaeth o ffynhonnau sanctaidd ac eglwysi nodweddiadol, llawer ohonynt wedi’u codi yng nghyfnod y Tuduriaid pan ddaeth Sir Ddinbych yn bwerdy ffyniannus a diwylliedig Dadeni Cymru. Mae’r trefi hanesyddol, pentrefi deniadol a’r tai hanesyddol amrywiol i gyd o gymorth i adrodd hanes Sir Ddinbych: ac er nad adawodd y Chwyldro Diwydiannol ôl trwm ar y sir fodern, gellir olrhain ei threftadaeth ddiwydiannol o hyd, yn aml mewn lleoliadau heddychlon yn ei pharciau gwledig a’i thirlun ysblennydd.

Mae ei chwedlau, ei hynodbethau a’i chysylltiadau â phobl enwog i gyd yn ychwanegu at gymeriad Sir Ddinbych. Felly hefyd y ffaith y siaredir Cymraeg a Saesneg yn ei threfi a’i phentrefi, gan fod natur a hanes wedi sicrhau mai Sir Ddinbych ydi’r sir fwyaf nodweddiadol Gymreig o siroedd y ffin ddwyreiniol o hyd.

I grynhoi hyn i gyd, mae Sir Ddinbych yn sir hardd.

Sir Ddinbych

"Gweithio gyda'n gilydd er lles dyfodol Sir Ddinbych."

Logo Hyderos o ran anabledd