Canolbwynt Cyflogaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yn Gweithio

Canolbwynt Cyflogaeth Ieuenctid

Os ydych rhwng 16 a 24 oed dewch draw i Ganolbwynt Ieuenctid Sir Ddinbych yn Gweithio; y lle i ddod am wybodaeth, offer, cyngor a chymorth am gyflogaeth, gyrfaoedd, lles a llawer mwy.

Sesiynau galw heibio

Cynhelir sesiynau galw heibio bob dydd Llun rhwng 10.30am a 4pm yn Llyfrgell y Rhyl, 11a Stryd yr Eglwys.

Rydym yn cynnig y canlynol:

  • Cyngor am waith a gyrfaoedd
  • Cefnogaeth gyda sgiliau cyflogadwyedd
  • Cefnogaeth a chyngor am les
  • Cymorth gyda hyder, cymhelliant a gwydnwch
  • Hyfforddiant a datblygu sgiliau
  • Gwybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli
  • Budd-daliadau a chyngor ariannol (i ddod yn fuan)

Bydd Gyrfa Cymru (gwefan allanol) a'r Adran Gwaith a Phensiynau (gwefan allanol) yn ymuno â ni yn y sesiynau.

Dilynwch ni

Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau:

Sut i ddod o hyd i ni

Canolbwynt Cyflogaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yn Gweithio
Llyfrgell y Rhyl (Ardal y caffi)
Church Street
Y Rhyl
LL18 3AA

Sut i gyrraedd yma

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.