Cyfle i chi, denantiaid preifat, i ddweud eich barn ar sut mae COVID-19 yn effeithio ar eich tenantiaeth
Mae 1 mewn 5 aelwyd yng Ngogledd Cymru’n denantiaid preifat. Mae’r coronafeirws a’r cyfnodau clo wedi effeithio ar bob un ohonom. I denantiaid preifat, gallai’r effaith fod wedi arwain at galedi, ac yn y pen draw, mwy o risg o ddigartrefedd.
Am y tro cyntaf, mae Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru yn ymgynghori â thenantiaid preifat i weld sut maent yn delio ag effeithiau COVID-19.
Mae cynghorau Gogledd Cymru a’u partneriaid yn cynnig ystod o wasanaethau i denantiaid preifat fel:
- cyngor a chymorth i denantiaid preifat i’w hatal rhag colli tenantiaethau
- helpu gyda chyllidebu a gwneud y gorau o incwm
- cyfeirio at gefnogaeth ar gyfer cam-drin domestig
- hawliau tenantiaeth ac os nad yw’n bosibl arbed tenantiaeth, cymorth i ddod o hyd i lety arall
I helpu cynghorau lleol i gynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau wrth symud i 2021, gwahoddir tenantiaid preifat i lenwi holiadur byr a rhannu eu profiadau.
Wedi’i greu mewn partneriaeth â TPAS Cymru – y gwasanaeth cyfranogiad tenantiaid (gwefan allanol), bydd yr holiadur hefyd yn rhoi gwybodaeth i chi a lle i fynd am gyngor neu gymorth. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gofrestru gyda Phwls Tenantiaid – llais tenantiaid yng Nghymru (gwefan allanol). Am fwy o wybodaeth am Bwls Tenantiaid, cliciwch yma. Mae gan bawb sy’n cofrestru ar gyfer Pwls Tenantiaid y cyfle i ennill gwerth £150 o dalebau siopa.
Mae’r ymgynghoriad yn agored tan 30 Rhagfyr 2020.
Llenwi’r holiadur arlein (gwefan allanol)