Trwyddedau siop anifeiliaid anwes / Gweithgareddau Anifeiliaid
Os ydych yn rhedeg busnes sy'n gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes mae'n ofynnol i chi gael Trwydded Gweithgareddau Anifeiliaid a rhaid i chi gydymffurfio â rhai Amodau wrth ymgymryd â'r gweithgareddau hyn.
Mae'r mathau canlynol o weithgareddau sy'n cyflawni un neu ragor o'r meini prawf canlynol bellach yn destun trwyddedu:
- mewnforio, dosbarthu a gwerthu anifeiliaid gan fusnes
- busnesau wedi cofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau
- busnesau neu unigolion sy'n gweithredu o adeiladau domestig at ddibenion masnachol (efallai y byddwch yn dal i gael eich dosbarthu fel busnes at ddiben y gofynion hyn er efallai na fyddwch wedi'ch rhestru ar Dŷ'r Cwmnïau)
- Mae adeiladau ar agor i aelodau'r cyhoedd, neu i fusnesau eraill lle mae anifeiliaid ar gael i'w prynu.
Sut mae gwneud cais am y drwydded hon?
Am gopi o'r ffurflen gais, y dogfennau a'r Amodau canllaw, cysylltwch â ni ar animalhealth@denbighshire.gov.uk
Byddwch yn destun archwiliad i asesu'ch cydymffurfio ag Amodau sy'n rhan o'n penderfyniad a ddylid cymeradwyo trwydded newydd ai peidio.
Faint mae’n costio?
Mae trwydded siop anifeiliaid anwes yn costio £150. Mae hefyd yn costio £150 i’w hadnewyddu pob blwyddyn.
Os ydych chi’n gwneud cais am eich trwydded ar-lein byddwch yn talu’r ffi ar-lein yn defnyddio’ch cerdyn debyd/credyd.
Siopau Anifeiliaid Anwes trwyddedig bresennol yn Sir Ddinbych
Pets at Home
Unit 2 Clwyd retail Park
Rhyl road
Rhuddlan
Gwefan: petsathome.com (gwefan allanol)
Rhyl Aquaria
4/8 Abbet Street
Rhyl
LL18 1NY
Gwefan: www.rhylaquaria.co.uk (gwefan allanol)
Seaworld Aquatics
9 Kinmel Street
Rhyl
LL18 1AE
Gwefan: seaworldaquatics.co.uk (gwefan allanol)