Colli cyflenwad pŵer ac argyfyngau

105 yn rhif y gallwch ei ffonio i roi gwybod neu gael gwybodaeth am doriad trydan. Bydd yn eich rhoi trwodd i weithredwr eich rhwydwaith trydan lleol - y cwmni sy'n rheoli’r ceblau, gwifrau ac is-orsafoedd sy'n dod â thrydan i gartrefi a busnesau yn eich ardal.

Mae 105 yn wasanaeth rhad ac am ddim i bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, a gallwch ffonio'r rhif o'r rhan fwyaf o linellau tir a ffonau symudol. Nid oes ots pwy ydych yn dewis prynu eich trydan ganddynt - gall unrhyw un alw 105.

Gallwch hefyd ffonio 105 os gwelwch ddifrod i linellau pŵer trydan ac is-orsafoedd a all eich rhoi chi, neu rywun arall, mewn perygl. Os oes risg uniongyrchol difrifol, ffoniwch y gwasanaethau brys hefyd.

Peidiwch â bod yn y tywyllwch. Ffoniwch 105.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.powercut105.com (gwefan allanol).