Defnyddiau peryglus

O gemegolion diwydiannol i lanedyddion cartref a ffresnyddion aer, mae defnyddiau peryglus yn rhan o’n bywyd dyddiol. Sylweddau ydi defnyddiau peryglus sydd, oherwydd eu natur gemegol, yn risg botensial i fywyd, iechyd neu eiddo os cân nhw eu rhyddhau. Gall peryglon fodoli yn ystod eu cynhyrchu, eu storio, eu cludo, eu defnyddio neu eu gwaredu.

Cyngor

If you witness (or smell) a hazardous materials accident, call 999 as soon as safely possible. Please remember NOT to switch on your mobile phone if you think you are standing near flammable gas.

  • Os gwelwch chi (neu os byddwch chi'n arogli) damwain â defnyddiau peryglus, ffoniwch 999 gyn gynted ag y bydd hynny’n ddiogel. Cofiwch beidio â rhoi eich ffôn symudol ymlaen os credwch chi eich bod yn sefyll yn agos at nwy fflamadwy
  • Cadwch draw o safle’r digwyddiad i isafu’r risg o halogiad
  • Os ydych chi mewn car, stopiwch a cheisiwch gysgod mewn adeilad os yn bosib. Os oes raid i chi aros yn eich car, caewch ffenestri’r car a’r awyrellau a diffoddwch yr aerdymheru a’r gwresogydd
  • Os gofynnir i chi ymgilio o’ch cartref, gwnewch hynny ar unwaith. Dilynwch gyngor y gwasanaethau brys bob amser
  • Os byddwch yn byw yn y parth gwybodaeth gyhoeddus o gwmpas safle reoledig, darllenwch y wybodaeth a ddarperir i chi. Os oes gan y safle Wasanaeth Negeseua Awtomataidd, cofrestrwch ag o. Bydd yn rhoi gwybod i chi ddydd a nos os bydd yna argyfwng

Rhyddhad cemegyn gwenwynig neu ymbelydredd

Os ydych chi'n agos iawn at ryddhad posib ymbelydredd neu gemegyn gwenwynig ac yn credu y gallech fod wedi eich heintio, arhoswch am y gwasanaethau brys; fe wnân nhw ddarparu cyfleusterau dadlygru, a pheidiwch â gadael y safle na mynd i’r ysbyty eich hun os byddwch yn credu eich bod wedi eich heintio. Arhoswch am gyngor arbenigol.

Argyfyngau Cemegol yn y Cartref

Bydd bron pob cartref yn defnyddio cynhyrchion sy’n cynnwys defnyddiau peryglus. Er bod y perygl o ddamwain gemegol yn fychan iawn, gall gwybod sut i ddelio â’r cynhyrchion hyn a sut i ymateb yn ystod argyfwng leihau’r risg o anaf.

  • Dilynwch y cyfarwyddiadau ar label y cynnyrch i waredu cemegau’n briodol
  • Ewch â meddyginiaethau sy’n hen neu sydd heb eu defnyddio’n ôl i’r fferyllfa i’w gwaredu
  • Darllenwch y cyfarwyddiadau cyn defnyddio cynhyrchion cemegol newydd a gofalwch eich bod yn storio cemegau cartref yn ôl y cyfarwyddiadau ar y label
  • Storiwch gemegau mewn lle saff, diogel: yn uchel fyddai orau ac o gyrraedd plant bob amser
  • Peidiwch â chymysgu cynhyrchion cemegol y cartref
  • Peidiwch byth â smygu wrth ddefnyddio cemegau. Os byddwch yn colli cemegau, glanhewch nhw ar unwaith efo clytiau. Gwisgwch fenig ac amddiffyniad i’r llygaid. Gadewch i’r mygdarth yn y clytiau anweddu yn yr awyr agored, ac yna gwaredwch y clytiau’n unol â’r cyfarwyddiadau ar sut i waredu’r cemegyn ei hun
  • Cadwch rif y Gwasanaeth Gwybodaeth ar Wenwynau wrth bob ffôn: 0845 46 47

Dysgwch sut i adnabod symptomau gwenwyno togsig

  • Anhawster anadlu
  • Cosi poenus yn y llygaid, ar y croen, gwddw neu bibell anadlu
  • Newidiadau yn lliw’r croen
  • Cur pen neu olwg aneglur
  • Lletchwithdod neu ddiffyg cydgysylltiad
  • Crampiau neu ddolur rhydd

Pe byddai i’ch plentyn fwyta neu yfed rhywbeth nad yw’n fwyd, ffeindiwch y cynhwysydd ar unwaith ag ewch ag o efo chi pan fyddwch yn galw am help. Mae’n bosib y bydd ar weithiwr proffesiynol meddygol angen gwybodaeth benodol oddi ar y cynhwysydd i roi’r cyngor brys gorau i chi.

  • Ffoniwch 999
  • Dilynwch y cyngor proffesiynol yn ofalus. Peidiwch â rhoi dim drwy’r geg cyn i weithiwr proffesiynol meddygol ddweud wrthoch chi am wneud hynny
  • Darllenwch am beth i’w wneud mewn achos o wenwyno yn eich llawlyfr cymorth cyntaf cyn i ddim ddigwydd
  • Cymerwch gamau’n syth os aiff y cemegyn i’r llygaid
  • Golchwch y llygad â dŵr glân am 15 munud o leiaf, oni bai bod awdurdodau’n dweud wrthych am beidio â defnyddio dŵr ar y cemegyn arbennig yma
  • Daliwch i olchi hyd yn oed os bydd y claf yn dweud nad yw’n teimlo poen bellach ac yna ceisiwch sylw meddygol