Rhybuddion Brys

Rhybuddion Argyfwng

Mae system Rhybuddion Brys newydd llywodraeth y DU yn fyw a dylech ddisgwyl derbyn neges brawf. Bydd y system yn ei gwneud hi'n bosibl cysylltu â phobl drwy eu ffôn symudol pan fo bywydau mewn perygl.

Bydd yn cael ei ddefnyddio i'ch rhybuddio os bydd argyfyngau, megis llifogydd difrifol.

Anfonir Rhybuddion Argyfwng i bob ffôn symudol cydnaws mewn ardal risg. Nid ydynt yn olrhain eich lleoliad, nid oes angen eich rhif ffôn, ac nid ydynt yn casglu data personol. Dim ond y llywodraeth a'r gwasanaethau brys fydd yn gallu eu hanfon. Os nad oes gennych ffôn symudol, byddwch yn dal i gael eich hysbysu trwy sianeli eraill.

Os cewch Rybudd Argyfwng ar eich ffôn, byddwch yn clywed sain uchel, tebyg i seiren. Bydd neges ar eich sgrin yn dweud wrthych am yr argyfwng a'r ffordd orau o ymateb. Byddwch yn gallu gwirio bod rhybudd yn ddilys yn gov.uk/alerts (gwefan allanol)

Os byddwch yn derbyn rhybudd, darllenwch y rhybudd yn ofalus a dilyn y cyfarwyddiadau.

Gallwch optio allan o dderbyn rhybuddion brys; am fwy o wybodaeth ar sut i optio allan ewch i gov.uk/alerts (gwefan allanol)

I ddysgu rhagor am Rybuddion Argyfwng, ewch i gov.uk/alerts (gwefan allanol)

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Rhybuddion Argyfwng?

Beth yw Rhybuddion Argyfwng?

Mae system Rhybuddion Argyfwng newydd llywodraeth y DU yn fyw ac mae'n golygu bod modd cysylltu â phobl drwy eu ffonau symudol pan fo bywydau mewn perygl.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio i'ch rhybuddio o argyfyngau sy'n fygythiad i fywydau, er enghraifft llifogydd difrifol.

Sut fydd y rhybuddion yn edrych ac yn swnio?

Sut fydd y rhybuddion yn edrych ac yn swnio?

Mae Rhybudd Argyfwng yn edrych ac yn swnio'n wahanol iawn i fathau eraill o negeseuon megis 'negeseuon testun' SMS. Byddwch yn gwybod eich bod yn cael Rhybudd Argyfwng oherwydd byddwch yn clywed sŵn uchel fel seiren a bydd eich ffôn yn dirgrynu mewn ffordd benodol. Bydd neges yn aros ar eich sgrin nes i chi ei chydnabod.

Beth yw pwrpas y rhybudd prawf?

Beth yw pwrpas y rhybudd prawf?

Er mwyn sicrhau bod y system Rhybuddion Argyfwng yn gweithio’n effeithiol, bydd y llywodraeth yn cynnal prawf cenedlaethol ddydd Sul 23 Ebrill am 3pm.

A allaf ddewis peidio â chael y rhybuddion argyfwng?

A allaf ddewis peidio â chael y rhybuddion argyfwng?

Mae Rhybuddion Argyfwng yn defnyddio nifer o sianelau ac mae’r gallu i ddewis p’un a ydych am gael y rhybuddion yn ddibynnol ar y math o sianel sydd gennych. Fodd bynnag, rydym yn argymell yn gryf nad yw pobl yn dewis peidio â derbyn y gwasanaeth, gan mai ei fwriad yw eich rhybuddio pan fo bywydau mewn perygl.

Dewis peidio â chael rhybuddion ar iPhone:

  • Ewch i 'Settings' a chwiliwch am 'emergency alerts' a diffoddwch y rhybuddion difrifol a'r rhybuddion argyfwng.
  • Os nad yw hynny’n gweithio, cysylltwch â chynhyrchwyr eich dyfais.
  • Am fwy o gyngor, ewch i gov.uk/alerts/opt-out (gwefan allanol)

Dewis peidio â chael rhybuddion ar ffonau a llechi Android:

  • Ewch i ‘Settings’ a chwiliwch am ‘emergency alerts’ a diffoddwch y rhybuddion difrifol a’r rhybuddion argyfwng.
  • Ar declynnau Huawei sydd ar system EMUI 11 neu hŷn, ewch i ‘Settings’ a chwiliwch am ‘emergency alerts’ a diffoddwch "Extreme threats", "Severe threats" a "Show amber alerts"
  • Os nad yw hynny’n gweithio, cysylltwch â chynhyrchwyr eich dyfais
Rwy’n dioddef o gam-drin domestig ac mae angen i fy ffôn fod yn guddiedig. Sut allaf ei atal rhag gwneud sŵn?

Rwy’n dioddef o gam-drin domestig ac mae angen i fy ffôn fod yn guddiedig. Sut allaf ei atal rhag gwneud sŵn?

Mae’n bosibl dewis peidio â chael y rhybuddion os oes angen i’ch ffôn fod yn guddiedig.

Gweler y cwestiwn blaenorol: "A allaf ddewis peidio â chael y rhybuddion argyfwng?"

Sut allaf ddod o hyd i Rybudd Argyfwng ar fy ffôn ar ôl i mi ei gydnabod?

Sut allaf ddod o hyd i Rybudd Argyfwng ar fy ffôn ar ôl i mi ei gydnabod?

Os ydych wedi cael Rhybudd Argyfwng ar ffôn cyfaddas, mae’n bosibl y byddwch yn gallu ei weld ar eich ffôn ar ôl i chi ei gydnabod. Ar ffonau Android, gellir gweld y rhybudd yn yr ap ‘Messages’ neu ‘Emergency Alert History’. I ddefnyddwyr iPhone, bydd y rhybudd yn eich hysbysiadau. Gallwch weld eich hysbysiadau drwy symud eich bys i lawr o ran uchaf eich sgrin. Os ydych yn dileu eich hysbysiadau, caiff y rhybudd ei ddileu hefyd.

Sut maen nhw’n gweithio?

Sut maen nhw’n gweithio?

Mae Rhybuddion Argyfwng yn cael eu hanfon i ffonau symudol 4G a 5G cyfaddas mewn ardal o risg. Nid oes angen eich lleoliad na’ch rhif ffôn ar y gwasanaeth. Dim ond y llywodraeth a’r gwasanaethau brys sy’n gallu eu hanfon.

A fyddaf yn gallu cael y rhybuddion os oes gennyf hen ffôn?

A fyddaf yn gallu cael y rhybuddion os oes gennyf hen ffôn?

Mae Rhybuddion Argyfwng yn cael eu hanfon at ffonau symudol 4G a 5G cyfaddas mewn ardal o risg, os ydynt wedi lawrlwytho’r feddalwedd ddiweddaraf. Mae’n debygol y bydd angen gwneud newidiadau i osodiadau ffonau symudol a ryddhawyd cyn 2015.

A yw fy ngosodiadau preifatrwydd a diogelwch yn cael eu diogelu?

A yw fy ngosodiadau preifatrwydd a diogelwch yn cael eu diogelu?

Ydynt. Nid oes angen gwybodaeth bersonol ar gyfer Rhybuddion Argyfwng (megis rhif ffôn, enw na lleoliad).

Mae’r dechnoleg a ddefnyddir yn gallu darlledu neges i ardal benodol, sy’n golygu bod unrhyw ddyfais gyfaddas sydd yn yr ardal honno, neu sy’n dod i mewn iddi, yn derbyn y neges ar unwaith.

Mae rhybuddion argyfwng felly yn rhai unffordd ac nid ydynt yn darparu unrhyw adborth am leoliad y derbynnydd na p’un a yw wedi derbyn y rhybudd ai peidio.

Nid yw rhifau ffôn na lleoliadau penodol y derbynwyr yn ofynnol, yn hysbys nac yn cael eu defnyddio, ac nid oes unrhyw wybodaeth bersonol am dderbynwyr Rhybuddion Argyfwng yn cael ei rhannu gan Weithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol ac nid oes unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei chasglu gan y llywodraeth na’r Gweithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol.

A fydd rhybuddion a anfonir i fy ffôn symudol yn dweud wrth yr awdurdodau ble ydw i neu a fyddant yn cael eu defnyddio i gasglu data amdanaf i?

A fydd rhybuddion a anfonir i fy ffôn symudol yn dweud wrth yr awdurdodau ble ydw i neu a fyddant yn cael eu defnyddio i gasglu data amdanaf i?

Na fydd. Mae rhybuddion argyfwng yn rhai unffordd ac nid ydynt yn darparu unrhyw adborth am eich lleoliad na p’un a ydych wedi derbyn Rhybudd Argyfwng ai peidio. Nid oes unrhyw ddata yn cael ei gasglu amdanoch chi, eich ffôn na’ch lleoliad. Nid oes unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei chasglu gan y llywodraeth na’r Gweithredwyr Rhwydweithiau Ffonau Symudol am dderbynwyr y Rhybuddion Argyfwng.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng negeseuon SMS a Rhybuddion Argyfwng?

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng negeseuon SMS a Rhybuddion Argyfwng?

Ar ôl i rybudd gael ei anfon gan y llywodraeth neu’r gwasanaethau brys, bydd y neges yn cael ei derbyn ar ffôn symudol o fewn 4 i 10 eiliad. Gellir cymharu hyn â neges SMS, a all gymryd hyd at 48 awr i gyrraedd. Mae hyn yn hanfodol mewn argyfyngau. Mae Rhybuddion Argyfwng yn rhai unffordd ac nid oes angen gwybodaeth bersonol, tra bo negeseuon SMS yn gorfod cael rhif ffôn.

Sut fyddaf yn gwybod bod y neges yn un ddidwyll?

Sut fyddaf yn gwybod bod y neges yn un ddidwyll?

Mae Rhybudd Argyfwng yn edrych ac yn swnio’n wahanol iawn i fathau eraill o negeseuon megis ‘negeseuon testun’ SMS.

Byddwch yn gwybod os ydych yn cael Rhybudd Argyfwng oherwydd byddwch yn clywed sŵn uchel fel seiren a bydd eich ffôn yn crynu mewn modd penodol. Mae’n rhaid i chi eu cydnabod cyn y gallwch ddefnyddio nodweddion eraill eich ffôn. Maent yn ymddangos fel hysbysiad a byddant yn cynnwys dolen gyswllt i wefan gov.uk/alerts, lle gallwch hefyd wirio bod y rhybudd yn un didwyll.

Os ydych yn cael rhybudd ac yn dal i fod yn amheus am darddiad y neges, ewch i gov.uk/alerts (gwefan allanol) neu cysylltwch â’ch cymdogion, ffrindiau neu deulu yn yr ardal gyfagos i wirio a ydyn nhw wedi cael y neges hefyd.

Pa ffyrdd eraill fyddwch chi yn eu defnyddio i rybuddio pobl am argyfwng?

Pa ffyrdd eraill fyddwch chi yn eu defnyddio i rybuddio pobl am argyfwng?

Mae Rhybuddion Argyfwng yn un o nifer o ffyrdd y mae’r llywodraeth yn cyfathrebu â’r cyhoedd am sefyllfaoedd argyfyngus, e.e. trwy’r cyfryngau, sefydliadau cymunedol a gwasanaethau brys lleol.

Mae gan bob rhanbarth ledled y wlad Fforwm Lleol Cymru Gydnerth hefyd, sy’n cynnwys aelodau o awdurdodau lleol, gwasanaethau brys, y GIG a chyrff iechyd ac asiantaethau amgylcheddol o’r llywodraeth. Mae’r rhain wedi’u sefydlu er mwyn rhybuddio, hysbysu a chynghori’r cyhoedd mewn achos o argyfwng. Mae Fforymau Lleol Cymru Gydnerth yn gweithio gyda phartneriaid mewn ardal leol i rybuddio pobl am argyfwng.

Ym mha iaith fydd y negeseuon yn cael eu darlledu?

Ym mha iaith fydd y negeseuon yn cael eu darlledu?

Y brif iaith fydd Saesneg. Bydd yn bosibl anfon negeseuon dwyieithog Cymraeg / Saesneg yng Nghymru hefyd. Byddwn yn parhau i ymchwilio i ddefnyddio’r dechnoleg ar gyfer anfon negeseuon mewn ieithoedd eraill er mwyn cynyddu effeithiolrwydd a chyrhaeddiad y gwasanaeth.

Pa mor aml fyddaf yn debygol o gael rhybuddion?

Pa mor aml fyddaf yn debygol o gael rhybuddion?

Mae’r tebygolrwydd o gael neges mewn unrhyw flwyddyn yn isel. Disgwylir mai llifogydd fydd y rheswm mwyaf dros anfon y rhybuddion.

Beth yw rhybuddion prawf?

Beth yw rhybuddion prawf?

Er mwyn sicrhau bod y system Rhybuddion Argyfwng yn gweithio’n effeithiol, mae’n bosibl y bydd y llywodraeth yn profi’r gwasanaeth yn achlysurol.

Mae gennyf nam ar y golwg neu’r clyw, a fyddaf yn gwybod bod Rhybudd Argyfwng wedi cael ei anfon?

Mae gennyf nam ar y golwg neu’r clyw, a fyddaf yn gwybod bod Rhybudd Argyfwng wedi cael ei anfon?

Byddwch. Mae Rhybuddion Argyfwng wedi cael eu llunio i ddenu sylw. Mae hynny’n golygu y bydd dyfeisiau sydd â 4G/5G (gweler y meini prawf uchod) yn defnyddio sŵn seiren uchel fel nad yw pobl â nam ar y golwg yn cael eu heithrio. Bydd rhai ffonau hefyd yn darllen y neges yn uchel ac yn gallu gwrthweithio gosodiadau uchder sain. Bydd y ffôn hefyd yn dirgrynu mewn modd penodol yn ystod Rhybudd Argyfwng. Wrth gynnal profion gyda defnyddwyr sy’n gwisgo cymhorthion clyw, gwelwyd bod y dôn a ddefnyddir yn cael ei hamlygu mewn modd unigryw i’r unigolion hynny. I’r rheiny â nam ar y golwg, bydd modd chwyddo’r sgrin hefyd i hwyluso darllen y Rhybudd Argyfwng.

Rwy’n gweithio gyda/rwy’n rhiant/gofalwr i unigolyn a allai gael ei frawychu gan y math hwn o rybudd. Sut mae hyn wedi cael ei gymryd i ystyriaeth?

Rwy’n gweithio gyda/rwy’n rhiant/gofalwr i unigolyn a allai gael ei frawychu gan y math hwn o rybudd. Sut mae hyn wedi cael ei gymryd i ystyriaeth?

Fel rhan o ymgyrch wybodaeth gyhoeddus, mae’r Llywodraeth yn gweithio’n agos gyda budd-ddeiliaid i sicrhau bod y cymunedau a’r bobl sy’n fwy tebygol o gael eu brawychu gan y math hwn o rybudd yn cael gwybod am y gwasanaeth Rhybuddion Argyfwng. Os gallwch, rydym hefyd yn eich cynghori i nodi pobl ddiamddiffyn sy’n byw gerllaw y gallwch eu hysbysu o’r gwasanaeth.

Gellir cyfeirio pobl ddiamddiffyn hefyd at y wefan GOV.UK (gwefan allanol) am fwy o wybodaeth am Rybuddion Argyfwng, gan gynnwys beth sy’n digwydd pan fyddwch yn cael rhybudd, rhesymau pam y gallech dderbyn rhybudd a sut mae’r rhybuddion yn gweithio. Gellir gwylio’r fideo esboniadol i gael rhagor o wybodaeth hefyd (gwefan allanol).

Fideo: Sut mae rhybuddion brys yn gweithio (gwefan allanol)

A fydd y gwasanaeth newydd hwn yn rhoi rhai unigolion neu grwpiau dan anfantais?

A fydd y gwasanaeth newydd hwn yn rhoi rhai unigolion neu grwpiau dan anfantais?

Mae Rhybuddion Argyfwng yn un o nifer o ffyrdd y mae’r Llywodraeth yn cyfathrebu â’r cyhoedd am sefyllfaoedd argyfyngus.

Bydd y gwasanaeth hwn yn un o nifer o ffynonellau gwybodaeth mewn achos o argyfwng sy’n fygythiad i fywydau. Bydd y gweithdrefnau presennol yn parhau - er enghraifft bydd pobl sydd heb ffôn symudol yn cael gwybod trwy’r newyddion a gwasanaethau brys lleol.

Fel rhan o ymgyrch wybodaeth gyhoeddus, mae’r Llywodraeth yn gweithio’n agos gyda budd-ddeiliaid i sicrhau bod y cymunedau a’r bobl sy’n llai tebygol o fod yn berchen ar ffôn symudol yn cael gafael ar y wybodaeth sy’n cael ei dosbarthu drwy’r rhybuddion. Rydym yn eich cynghori i ddod o hyd i rywun sy’n byw gerllaw a fydd yn gallu rhoi gwybod i chi pan anfonir unrhyw Rybuddion Argyfwng.

Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth Rhybuddion Argyfwng, ewch i: www.gov.uk/alerts (gwefan allanol).

Fideo: Sut mae rhybuddion brys yn gweithio (gwefan allanol)