Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant
Mae gennym gyfrifoldeb i wneud yn siŵr bod digon o ofal plant yn Sir Ddinbych i ddiwallu anghenion rhieni sy'n gweithio.
Mae ‘gofal plant digonol’ yn golygu gofal plant sy'n bodloni anghenion rhieni yn yr ardal sydd angen gofal plant fel eu bod yn gallu:
- dechrau neu barhau yn y gwaith
- ymgymryd ag addysg neu hyfforddiant a fydd yn eu helpu i gael gwaith
Er mwyn cyflawni ein cyfrifoldeb, rydym yn cynnal asesiad manwl o'r cyflenwad a'r galw am ofal plant yn Sir Ddinbych bob mis Mawrth. Mae'r asesiad yn cynnwys ymchwil ac ymgynghori â rhieni, gofalwyr, pobl ifanc, cyflogwyr a darparwyr.
Roedd yr asesiad mwyaf diweddar yn 2022.
Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant (PDF, 3.7MB)