Mae'r Cynllun Cyn-Ysgol Iach (rhan o fenter Cynllun Ysgolion Iach Llywodraeth Cymru) yn anelu at weithio gyda meithrinfeydd, gwarchodwyr plant, a chanolfannau teulu i hyrwyddo a diogelu pob agwedd ar iechyd.
Mae'r Cynllun Cyn Ysgol Iach yn canolbwyntio ar y canlynol;
- Maeth ac Iechyd y Geg
- Gweithgareddau Corfforol / Chwarae Bywiog
- Diogelwch
- Hylendid
- Iechyd Meddyliol ac emosiynol, lles a pherthnasau
- Amgylchedd
- Iechyd yn y gweithle
Pwy all ymuno â'r cynllun?
Gall pob lleoliad sy'n darparu gofal plant ar gyfer plant oedran cyn ysgol gymryd rhan yn y cynllun.
Sut y gallaf i gymryd rhan?
Os nad ydych wedi cael eich gwahodd yn barod, cysylltwch â'n Swyddog Cyn Ysgol Iach i gofrestru eich manylion a rhoi gwybod i ni os hoffech gymryd rhan.
Sut mae'r Cynllun Cyn Ysgol Iach yn gweithio?
Ar gyfer pob thema iechyd, mae’r lleoliad yn edrych ar iechyd trwy ei bolisïau, cynllunio ac ethos yn ogystal â lles ei gymuned.
Ar ddiwedd pob cam mae'r lleoliad yn cael ei asesu ac unwaith y byddant yn cyrraedd y safonau gofynnol, maent yn cael tystysgrif gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cymorth gyda'r cynllun
Bydd pob lleoliad yn cael ei gefnogi gan swyddog Cyn Ysgol Iach i gwblhau'r meini prawf a darparu tystiolaeth. Bydd hyfforddiant ar gael a gall yr adnoddau isod helpu hefyd.
Adnoddau Cynllun Cyn Ysgol Iach
Iechyd Cyhoeddus Cymru: y cynllun cyn-ysgol iach a chynaliadwy (gwefan allanol).