Cwrs Solihull: Deall eich plentyn
Mae’r cwrs Solihull: Deall eich Plentyn yn ffordd ddifyr, sefydledig a dibynadwy i ddeall mwy am eich plentyn.

Datblygwyd y cwrs yn y GIG ynghyd ag ymarferwyr rheng flaen gan ganolbwyntio ar:
- Ymateb i sut mae eich plentyn yn teimlo
- Sut mae eich plentyn yn datblygu
- Gwahanol ddulliau magu plant
- Sut mae eich plentyn yn cyfathrebu
- Deall ymddygiad eich plentyn
- Cwsg, hunanreolaeth a dicter
Ar gyfer pwy mae’r cyrsiau?
Mae’r cwrs Solihull: Deall eich Plentyn ar gyfer mamau, tadau, neiniau a theidiau a gofalwyr yn Sir Ddinbych.
Pryd a lle fydd y cyrsiau’n digwydd?
Cynhelir y cyrsiau mewn ysgolion amrywiol ar draws Sir Ddinbych.
Dewiswch un o’r canlynol i ddarganfod pryd a ble mae’r cwrs Solihull: Deall eich Plentyn yn cael ei gynnal:
Dinbych - Canolfan Margaret Morris
Dinbych - Canolfan Margaret Morris
Yn Ninbych, bydd sesiynau’r ‘cwrs Solihull: deall eich plentyn’ yn cael eu cynnal yn y Canolfan Margaret Morris rhwng 9:15am a 11:15am ar:
- Dydd Gwener 25 Medi 2026
- Dydd Gwener 2 Hydref 2026
- Dydd Gwener 9 Hydref 2026
- Dydd Gwener 16 Hydref 2026
- Dydd Gwener 23 Hydref 2026
- Dydd Gwener 6 Tachwedd 2026
- Dydd Gwener 13 Tachwedd 2026
- Dydd Gwener 20 Tachwedd 2026
- Dydd Gwener 27 Tachwedd 2026
Sut i gyrraedd
Cyfeiriad Canolfan Margaret Morris yw:
Ysgol Pendref
Dinbych
LL16 3RU
Prestatyn - Ysgol Gymunedol Bodnant
Prestatyn - Ysgol Gymunedol Bodnant
Ym Mhrestatyn, bydd sesiynau’r ‘cwrs Solihull: deall eich plentyn’ yn cael eu cynnal yn Ysgol Gymunedol Bodnant rhwng 9:15am a 11:15am ar:
- Dydd Gwener 25 Medi 2026
- Dydd Gwener 2 Hydref 2026
- Dydd Gwener 9 Hydref 2026
- Dydd Gwener 16 Hydref 2026
- Dydd Gwener 23 Hydref 2026
- Dydd Gwener 6 Tachwedd 2026
- Dydd Gwener 13 Tachwedd 2026
- Dydd Gwener 20 Tachwedd 2026
- Dydd Gwener 27 Tachwedd 2026
Sut i gyrraedd
Canfod sut i gyrraedd Ysgol Gymunedol Bodnant
Y Rhyl - Ysgol Christchurch
Y Rhyl - Ysgol Christchurch
Yn y Rhyl, bydd sesiynau’r ‘cwrs Solihull: deall eich plentyn’ yn cael eu cynnal yn Ysgol Christchurch o 12:45pm tan 2:45pm ar:
- Dydd Mercher 23 Medi 2026
- Dydd Mercher 30 Medi 2026
- Dydd Mercher 7 Hydref 2026
- Dydd Mercher 14 Hydref 2026
- Dydd Mercher 21 Hydref 2026
- Dydd Mercher 4 Tachwedd 2026
- Dydd Mercher 11 Tachwedd 2026
- Dydd Mercher 18 Tachwedd 2026
- Dydd Mercher 25 Tachwedd 2026
Sut i gyrraedd
Canfod sut i gyrraedd Ysgol Christchurch
Sut mae cymryd rhan?
Mae’r cwrs yn rhad ac am ddim, ond bydd yn rhaid i chi wneud cais am le i fynychu. Bydd yn rhaid i chi hefyd fynychu’r 9 sesiwn er mwyn cwblhau’r cwrs.
Gwneud cais am le i fynychu’r cwrs Solihull: Deall eich plentyn
Grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych
Os ydych chi ar Facebook, gallwch chi ymuno â grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych i gael syniadau a chyngor addysgiadol i blant dan oed ysgol.
Grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych (gwefan allanol)